Siôn Alun Davies
Siôn Alun Davies | |
---|---|
Man preswyl | Caerdydd, Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
- Nid i'w ddrysu gyda'r gweinidog ac ymgyrchydd iaith, Siôn Alun, 1955 - 2012
Mae Siôn Alun Davies (weithiau, camsillefir heb yr hirnod fel Sion Alun Davies) yn actor o Gymro. Fe'i fagwyd yng Nghaerdydd.[1]
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Bu iddo astudio yn y Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Llundain, gan raddio gyda yn 2012.[2]
Ymddangosiadau Ffilm a Theledu[golygu | golygu cod]
Mae Siôn Alun wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu a ffilm yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gynnwys.
Cymraeg: Ymysg ei ymddangosiadau yn y Gymraeg mae ffilm arswyd Gwledd (2021), Craith (2018) a'r gyfres ddrama deledu, 35 Diwrnod (2015), Y Mabinogi (2005).
Saesneg: Mae wedi ymddangos yn y cyfresi a dramâu Saesneg, Hidden (fersiwn Saesneg Craith, gweler uchod) lle chwaraeodd un i'r prif rannau fel DC Owen Vaughan, Britannia (2017) a The Left Behind (2019).[3]
Ymddangosiadau Theatr[golygu | golygu cod]
Ymysg ei waith actio llwyfan mae:
- 'A Soldier and a Maker' (Barbican)
- 'Outside on the Street' (Pleasance/Arcola)
- 'Velocity' (Finborough)
- 'The Lady from the Sea' (National Theatre Wales)
- 'My People' (Clwyd Theatr Cymru).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Siôn Alun Davies". Gwefan Loud and Clear Voices. Cyrchwyd 27 Awst 2022.
- ↑ "Siôn Alun Davies". Asiantaeth Conway Van Gelder Grant. Cyrchwyd 27 Awst 2022.
- ↑ "Sion Alun Davies". IMDb. Cyrchwyd 27 Awst 2022.