Shane Warne

Oddi ar Wicipedia
Shane Warne
Shane Warne yn bowlio i'r Rajasthan Royals, yn erbyn Middlesex, mewn gornest elusennol ym maes Lord's yn 2009.
Ganwyd13 Medi 1969 Edit this on Wikidata
Upper Ferntree Gully Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Samui Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Mentone Grammar School
  • Hampton High School, Melbourne Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr, chwaraewr pocer Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
PartnerElizabeth Hurley Edit this on Wikidata
Gwobr/auCricedwr y Flwyddyn, Wisden, Swyddogion Urdd Awstralia Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auVictoria cricket team, Hampshire County Cricket Club, Rajasthan Royals, Melbourne Stars, Tîm criced cenedlaethol Awstralia Edit this on Wikidata
Saflebowler Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonAwstralia Edit this on Wikidata

Cricedwr Awstralaidd oedd Shane Keith Warne (13 Medi 19694 Mawrth 2022) sydd yn nodedig fel un o'r bowlwyr gwychaf yn hanes y gêm. Efe oedd y bowliwr cyntaf i gipio 700 o wicedi mewn gornestau prawf. Cafodd ei enwi yn un o bum cricedwyr yr 20g gan almanac Wisden yn 2000.

Ganed ef ym maestref Ferntree Gully ar gyrion Melbourne, yn nhalaith Victoria, Awstralia. Chwaraeodd mewn dim ond saith gornest i dîm Victoria yn y Sheffield Shield, cystadleuaeth criced uchaf Awstralia, cyn iddo gael ei ddewis i'r tîm cenedlaethol. Chwaraeodd yn ei ornest brawf gyntaf yn erbyn India ym 1992. Yng Nghyfres y Lludw ym 1993, yn erbyn tîm cenedlaethol Lloegr, fe gipiodd 34 o wicedi mewn chwe phrawf, gyda chyfartaledd bowlio o 25.79. Yn y gystadleuaeth honno, bowliodd Warne dafliad enwocaf ei yrfa: esiampl wych o droellfowlio chwith, gan bitsio ar stwmp y goes a tharo stwmp chwith Mike Gatting, tafliad a elwir "Pelen y Ganrif".[1] Yng Nghyfres y Lludw nesaf, ym 1994–95, cipiodd Warne 27 o wicedi gyda chyfartaledd o 20.33.

Ym 1994, derbyniodd Warne a'i gyd-chwaraewr Mark Waugh arian oddi wrth fwci o India, yn dâl am wybodaeth am feysydd criced a rhagolygon y tywydd ar gyfer gornestau. Cafodd y ddau ohonynt eu dirwyo, yn gyfrinachol, gan Fwrdd Criced Awstralia am dderbyn llwgrwobrwyon. Daeth yr achos i sylw'r cyhoedd ym 1998, un o sawl sgandal betio ym myd criced yn y 1990au. Ymunodd â chlwb Hampshire yn Lloegr yn 2000, a chwaraeodd iddynt nes 2007, pryd gadawodd dîm Victoria hefyd. Yn Chwefror 2003, cafodd ei droi allan o Gwpan y Byd yn Ne Affrica wedi iddo brofi'n bositif am gyffur diwretig gwaharddedig; fe'i gwaharddwyd rhag chwarae am 12 mis am hynny. Yn ei ornest brawf gyntaf wedi iddo ddychwelyd i'r gêm, ym Mawrth 2004, cipiodd ei 500fed wiced, yr ail fowliwr erioed i wneud hynny. Yn 2006, ym Maes Criced Melbourne, daeth yn y bowliwr cyntaf i gipio 700 o wicedi mewn criced prawf, a byddai'n dal y record am y nifer uchaf, 708, nes i Muttiah Muralitharan gipio'r record yn 2007.[2]

Ymddeolodd o griced prawf yn 2007, ond parhaodd i gystadlu ar lefel y clybiau hyd at 2013. Chwaraeodd i'r Rajasthan Royals yn Uwch Gynghrair India o 2008 i 2011, a'r Melbourne Stars yn y Big Bash, cynghrair T20 yn Awstralia, o 2011 i 2013. Bu'n gricedwr hynod o boblogaidd, am ei bersonoliaeth hamddenol yn ogystal â'i fedrau ar y maes.[3] Bu farw Shane Warne yn Ko Samui, Gwlad Tai, o drawiad ar y galon yn 52 oed.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Tim Wigmore, "Shane Warne's Ball of the Century catapulted him to fame and changed cricket forever", The Daily Telegraph (4 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Mawrth 2022.
  2. (Saesneg) Shane Warne. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mawrth 2022.
  3. (Saesneg) Julia Naughton, "How a larrikin leg-spinner became a pop culture icon", The Age (5 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Mawrth 2022.
  4. (Saesneg) "Shane Warne dead: Australian cricket legend dies of suspected heart attack aged 52", The Daily Telegraph (4 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2022.