Samui

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ko Samui)
Samui
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth62,500 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSamui archipelago Edit this on Wikidata
SirKo Samui Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Tai Gwlad Tai
Arwynebedd228.7 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr635 metr Edit this on Wikidata
GerllawGulf of Thailand Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.5°N 100°E Edit this on Wikidata
Hyd26 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys oddi ar arfordir dwyreiniol Gwlad Tai sy'n agos i dref Surat Thani ar y tir mawr yw Samui.

Golygfa dros yr ynys

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae’n debyg bod trigiolion cyntaf yr ynys wedi mynd yno tua phymtheg canrif yn ôl. Credir mai pysgotwyr o benrhyn Malay a De Tsieina oeddynt. Mae’r ynys yn ymddangos ar fapiau Brenhinllin Ming sy’n dyddio’n ôl i 1687 o dan yr enw Pulo Cornam. Mae’r enw Samui’n ddirgelwch ynddo’i hun. Efallai mai estyniad ar enw coeden frodorol i’r ynys, mui, ydyw, neu ffurf amhur o’r gair Tsieinieg Saboey sy’n golygu “hafan ddiogel”.

Tan yn hwyr yn yr 20g, cymuned hunan-gynhaliol ynysig oedd Samui, heb fawr ddim o gysylltiadau â gweddill Gwlad Tai ar y tir mawr. Doedd dim ffyrdd ar yr ynys tan y 1970au cynnar a chymerai’r daith 15 km o hyd o un ochr o’r ynys I’r llall ddiwrnod cyfan o gerdded trwy’r siwngl mynyddig yng nghanol yr ynys.

Erbyn hyn, mae poblogaeth o tua 47000 o bobl ar yr ynys. Ei phrif ffynonellau incwm yw’r diwydiant twristiaeth, yn ogystal ag allforio cnau cocos a rhwber. Mae maes awyr rhyngwladol bellach ar yr ynys a chanddo deithiau awyr ar yr awr i Bangkok a nifer o gysylltiadau â meysydd awyr eraill yng Ngwlad Tai ac yn rhanbarth De-ddwyrain Asia. Er bod yr ynys yn hybu delwedd o baradwys heb ei ail, mae’r twf economaidd wedi dod â nid yn unig llewyrch, ond newidiadau yn amgylchedd a diwylliant yr ynys, sydd wedi creu anghydweld rhwng trigolion lleol a mewnfudwyr o rannau eraill o’r wlad ac o dramor. Bydd llong Cunard MS Queen Victoria (llong i dros ddwy fil o deithwyr) yn angori ar Samui yn ystod môr-daith 2008, sy’n adlewyrchu statws a thwf Samui fel lle gwyliau poblogaidd tu hwnt.