Shaftesbury, Casnewydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Shaftesbury, Casnewydd
Math Cymuned, ward, Maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.601°N 2.999°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jayne Bryant (Llafur)
AS/au Paul Flynn (Llafur)

Cymuned yn ninas Casnewydd yw Shaftesbury. Cafodd ei henwi ar ôl Parc Shaftesbury, a enwyd ar ôl Anthony Ashley-Cooper, 7fed Iarll Shaftesbury. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,488.

Saif i'r gogledd o ganol y ddinas, rhwng Camlas Sir Fynwy ac afon Wysg. Prif nodwedd y gymuned yw gweddillion Castell Casnewydd, a adeiladwyd yn niwedd y 14g ac a fu'n ganolfan teulu Stafford.

Cynrychiolir Shaftesbury yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Paul Flynn (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
CymruCasnewydd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato