Castell Casnewydd
![]() Castell Casnewydd heddiw: y mur dwyreiniol gyda'r Porth ar yr afon | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Stow Hill ![]() |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 6.6 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5907°N 2.99507°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Castell adfeiliedig yng nghanol dinas Casnewydd, Cymru, yw Castell Casnewydd. Dyma'r castell a roddodd yr enw "Castell Newydd", sef Casnewydd, i'r dref. Gallai'r "Newydd" gyfeirio at y ffaith ei fod yn newydd ar y pryd mewn cymhariaeth â'r gaer Rufeinig hynafol yng Nghaerllion neu'r hen gastell mwnt a beili Normanaidd yn Stow Hill, yn y dref. Saif ar lan Afon Wysg.
Codwyd y castell yn y cyfnod rhwng 1327 a 1386, yn ôl pob tebyg, gan Hugh de Audley, Iarll Caerloyw, neu ei fab-yng-nghyfraith Ralph, Iarll Stafford. Cymerodd le'r castell mwnt a beili cynharach ger Eglwys Gadeiriol Casnewydd (Eglwys Gwynllwg), a ddinistrwyd.
Byr fu oes y castell. Roedd yn gastell cadarn, ond cafodd ei ddifetha'n rhannol gan luoedd Owain Glyndŵr ar ddechrau'r 1400au ac ni ddaeth dros hynny. Daeth i feddiant Humphrey Stafford, Dug Buckingham. Ar ôl i Humphrey Stafford ei adael cafodd ei esgeuluso a'i adael i araf ddadfeilio.
Erbyn heddiw, diolch i waith adeiladu yn y ddinas sydd wedi dwyn llawer o safle'r castell, dim ond yr ochr ddwyreiniol sy'n dal i sefyll ar lan Afon Wysg.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Y castell ar wefan CastleWales.com