Sgwrs Nodyn:Teyrnasoedd Cym

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teyrnasoedd i gyd?[golygu cod]

Diolch i ti am y gwaith ar y map hwn a'r un o'r Brydain gynnar, Llywelyn. Ond mae 'na ambell bwynt ynglŷn â rhai o'r lleoedd sy'n cael eu nodi fel teyrnasoedd yma.

Mae nodi'r ardaloedd a ganlyn fel teyrnasoedd yn creu'r argraff ein bod yn gwybod hynny, heb amheuaeth, ond mae'r sefyllfa'n fwy cymhleth o lawer. Mae rhai ohonyn nhw yn cael eu derbyn gan y mwyafrif o haneswyr fel teyrnasoedd neu is-deyrnasoedd cynnar o bosibl. Yn achos rhai eraill does dim prawf o gwbl. Dyma nhw, gydag ambell sylw (annigonol):

  • Arwystli (dim prawf; cantref ac arglwyddiaeth ganoloesol)
  • Edeirnion (dim prawf; cwmwd ac arglwyddiaeth)
  • Elfael (efallai?)
  • Ewias (teyrnas gynnar efallai, ond y farn gyffredin yw ei bod yn is-deyrnas neu arglwyddiaeth o fewn teyrnas Gwent)
  • Gwerthrynion/Gwrtheyrnion (efallai?)
  • Maelienydd (efallai?)
  • Penllyn (dim prawf; cantref ac arglwyddiaeth ganoloesol)
  • Tegeingl (dim prawf)
  • Ystrad Tywi (yn cael ei hystyried yn rhanbarth; dim prawf o gwbl ei bod yn deyrnas)

Ar y llaw arall, mae Dunoding a Meirionnydd, sy ddim ar y map, yn cael eu hystyried yn deyrnasoedd (neu is-deyrnasoedd) cynnar.

Tybed a oes modd diwygio'r map i ddangos yr ansicrwydd hyn? Defnyddio italics efallai? Baswn i ddim yn cynnwys Ystrad Tywi o gwbl. Does neb yn dadlau yn erbyn dilysrwydd y rhai amlwg, fel Gwynedd a Cheredigion, wrth gwrs! Y peth ydyw, mae ein gwybodaeth yn anghyflawn ac mae'r map yn rhoi'r argraff fod pob un o'r rhain yn cael eu derbyn gan haneswyr fel teyrnasoedd cynnar, sy'n gamarweiniol. Anatiomaros 17:55, 27 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Pa hwyl? Mae enwau'r teyrnasoedd sydd ar y map (fel y gweli yng nghornel dde uchaf y map) wedi ei gyhoeddi yn "Hanes Cymru" (Penguin, 1990) gan prif hanesydd Cymru, sef John Davies; a hwnnw'n seiliedig ar waith cynharach gan William Rees yn 1959. Mi wna i ychwanegu'r ddau gantref a awgrymi, wrth gwrs. Dwyt ti ddim wedi cynnwys teyrnasoedd (neu, isdeyrnasoedd) megis Dogfaeling yn Nyffryn Clwyd; wnes innau ddim chwaith gan mai isdeyrnas ydyw ac nid teyrnas. Yn ail, rwyt ti'n amau bodolaeth rhai o'r 'teyrnasoedd' megis Edeyrnion a Tegeingl; efallai, felly, y dylet nodi hynny yn yr erthygl ar y teyrnasoedd hyn. O ran y map, dwi'n meddwl ei bod yn welliant i'r hyn oedd yno cynt (dim map o gwbwl, neu fap ceiniog-a-dima o bump teyrnas a wnes i lunio tua blwyddyn yn ol). Barn dau hanesydd profiadol, proffesiynol ydyw'r map, fel ag y mae, ac fe ddywedir hynny arno. Efallai y gellir cynnwys unrhyw ddadleuon a ydyw ardaloedd yn deyrnas neu'n isdeyrnas (yn bodoli neu peidio a bodoli) yn yr erthyglau eu hunain. Diolch am dy sylwadau. Llywelyn2000 23:11, 27 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Henffych, Llywelyn! Cofia mai fy sylwadau i am rai o'r lleoedd ar y map ydy hyn, dydy o ddim yn feirniadaeth ohonot ti o gwbl. Am y ddau hanesydd, pawb a'i farn; mae eraill fel Wendy Davies, awdur Wales in the Early Middle Ages, yn llawer mwy petrusgar oherwydd prinder y dystiolaeth a'i natur. Rwyt ti'n iawn am Dogfeiling (sy'n cael ei nodi fel teyrnas gynnar yn ei herthygl). Mae John Davies yn cyfeirio at Ystrad Tywi yn cael ei hychwanegu at Geredigion ond dydy o ddim yn ei galw yn "deyrnas" (efallai'n wir yr oedd hi, ond doedd pob ardal/rhanbarth hanesyddol ddim yn deyrnas fel y cyfryw, o reidrwydd). Hefyd, ar fap John Davies yn Hanes Cymru, yn blwmp ac yn blaen mewn llythrennau bras, ceir MÔN; ond chewch chi ddim cyfeiriad at "Deyrnas Môn" mewn unrhyw lyfr ar hanes Cymru (dangos lleoliad ynys Môn mae'r map, wrth gwrs, ond gellid camddehongli hynny!). A dweud y gwir, mae'n bosibl dadlau dros dderbyn nifer o'r hen gantrefi a chymydau fel "teyrnasoedd" neu "is-deyrnasoedd" cynnar, ond yn niffyg tystiolaeth gwell tewi. Y cwbl dwi'n trio dweud ydy bod yna ansicrwydd ac anghytuno gan arbenigwyr. Mae llawer yn dibynnu ar sut y diffinir "teyrnas" a "brenhiniaeth" yn y cyfnod cynnar hefyd; testun sawl llyfr ac erthygl! Fel y dywedais, yn ddiffuant, dwi'n gwerthfawrogi dy waith ar hyn ond mae'n iawn i godi'r pwyntiau hyn hefyd. Ond be dwi'n wneud yma mor hwyr yn y nos eto? Methu cadw draw: nos da i ti, gyfaill! Anatiomaros 00:10, 28 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Smai? Dwi'n gweld dy ddadl, ond dwi'n amau ai dyma'r lle i'w threuthu! Parthed Mon: dwi wedi defnyddio ffont lliw gwahanol yn unswydd er mwyn gwahaniaethu rhwng darn o dir a theyrnas - fel dw i wedi ei weneud efo Clawdd Offa (du yn hytrach na gwyrdd). Pan ddysga i sut i wneud llythrennau mewn bold bras, mi wna i amlygu'r prif deyrnasoedd. Diolch i ti am dy sylwadau. Be dwi'n da 'ma? Am fod Wici yma! Llywelyn2000 00:21, 28 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]