Neidio i'r cynnwys

Sgwrs Defnyddiwr:Ewrotrashfreak

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, Ewrotrashfreak! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,449 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Anatiomaros 16:59, 29 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Ia wir, croeso cynnes. Llywelyn2000 23:10, 30 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]


Croeso Ewrotrashfreak. Mae dy Gymraeg yn ardderchog i feddwl mai ail iaith ydy o. Dw i wedi newid ychydig ar dy erthygl gyntaf. Weithiau rhaid ail eirio wrth gyfieithu yn hytrach na cheisio rhoi popeth i lawr gair am air fel y gwreiddiol. Edrychaf ymlaen i ddarllen mwy o dy erthyglau. --Ben Bore 13:46, 20 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

user page

[golygu cod]

Hello Liam, as you've renamed your account on en: could I suggest you put a link from your old user page on en: to your new one. (I see you've already put a link from the new page the the old one.) Luke 19:27, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Sure thing, thanks for the tip Ewrotrashfreak 19:29, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Oops sorry, I see from what you've done that I didn't make myself very clear! I meant from the old page on the English site (en:User:Drigioni) Luke 19:33, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Ahhh, sorri - wella nawr? Ewrotrashfreak 19:40, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Yes except that some stupid bot has reverted your edit! If you make the change under the old username then the bot won't think that you're vandalising another user's page! Luke 19:44, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Oh yeah, duh!! I'll get to it soon, thanks again! Ewrotrashfreak 19:45, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Oops, correction, I just looked at the account that reverted you -- that wasn't a bot, it was a human being! Luke 19:48, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010

[golygu cod]

Dim ond nodyn cyflym i ddweud diolch am yr holl waith rwyt ti wedi gwneud am Eurovision 2010. Dw i'n ffan mawr o'r Eurovision fy hunan ac mae'n gret cael cymaint o wybodaeth amdano. "Roll on" y 29ain o Fai! *yn tynnu'r bunting mas yn barod* Pwyll 18:59, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr iawn! Yn anffodus mae lot o waith 'da fi o hyn o bryd gyda'm cwrs prifysgol ond dw i'n golygu pan dw i'n abl. Dw i'n siwr y bydd y gystadleuaeth yn Oslo'n ffab!! Gorffena'm arholiadau ar 28 Mai felly dw i'n lwcus iawn!! Diolch 'to! Ewrotrashfreak 13:26, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Helo!

[golygu cod]

Heia, jyst neges fer gyflym i ddweud helo, a fy mod yn hoff iawn o dy dudalen defnyddiwr di! Neis i weld hoyw arall sy'n medru'r Gymraeg, LMAO! Gorffen a chael dy ganlyniadau o'r Brifysgol 'to? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:14, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Diolch :) a helo i di fyd haha Gwaith da yw'th flwch defnyddiwr am fod yn hoyw, dw di ei ddefnyddio i greu'r un Eurovision! Cyhoeddir fy nghanlyniadau ar 9 Gorffenaf, eitha nerfus yw i! Bydda'n dechrau fy ail flwyddyn yn Hydref, wel os dw i'n passio wrth gwrs hehe Diolch to :) Ewrotrashfreak 20:47, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ha, diolch a chroeso :D Ah, ddim yn hir 'te. Dwi'n ail iaith fy hunan, felly mae'n neis iawn fod pobl ail iaith eraill yma! Siŵr o fod byddi di'n iawn. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:57, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

O un hoyw Cymraeg Ewrotrashaidd i'r llall...

[golygu cod]

Dwi'n gweld fod cymuned o hoywon Cymreig Ewrotrashaidd yn sefydlu! Dwi'n falch o ddweud mod i'n ffitio i mewn i'r categori hefyd... Defnyddiais dy focs Dyma Fi! ar gyfer fy nhudalen defnyddiwr (gan gynnwys y logo Eurovision ynddi wrth gwrs). Mae'n rhaid fod golygu Wicipedia yn denu math arbennig o berson...

Ta waeth, dim ond nodyn byr i gyflwyno fy hun i ti a Xxglenxx, dwi'n reit newydd ar hwn felly byddai unrhyw gyngor yn gret. Hwyl am y tro. Osian Llwyd 18:36, 5 Awst 2010 (UTC)[ateb]

youtube

[golygu cod]

Mae linc i youtube gyda ti, ond dydy e ddim yn gweithio. Mae'r gwefan yn dweud rwyt ti wedi cae dy cyfrif. Oxford 07:23, 3 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Wps! Sorri! Dw i wedi creu cyfrif newydd ond s'dim fideos da fi ar hyn o bryd. Dw i wedi diweddaru'r linc nawr i gynnwys fy mlog fyd :) Diolch Oxford! Ewrotrashfreak 14:00, 3 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Golygathon Caerdydd 30.6.12

[golygu cod]

Cymryd bod ti'n dal yny brifysgol, ond os ti'n digwydd bod yn y de ddwyrain y penwythnos ar ol nesaf, bydd criw ohonom yn y Golygathon yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Dere draw! --Ben Bore (sgwrs) 09:23, 19 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]