Sgwrs:Rhestr llyfrau Cymraeg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Sefydlwyd WiciBrosiect i gydlynu'r gwaith ar 25 Hydref, 2013. Nodwch eich sylwadau yn y fan honno os gwelwch yn dda.

Er gwybodaeth mae dros 12,000 o lyfrau ar y rhestr. Ceisiwyd cynnwys y manylion pwysicaf yn y gronfa. Mae rhai ohonyn nhw'n llyfrau dwyieithog ac erall yn rhan o gyfresi. Didolwyd nhw i'w genres yn hytrach na blynyddoedd, ond gellid gwneud hynny ryw dro. Mae'n bosib hefyd ychwanegu atyn nhw'n flynyddol neu bob yn dipyn, wrth gwrs a nodi rhai bylchau e.e. ni nodir enw'r golygydd ym mhob man. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:11, 12 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Sylw neu ddau[golygu cod]

Gwaith gwych eto, Llywelyn. Dyma sylw neu ddau am y rhestrau, yn sydyn:

Gwelaf fod y llyfrau hyn i gyd yn rhai diweddar (er dwi ddim wedi edrych ar bob rhestr eto). Byddai rhestr o bob llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd erioed yn un faith iawn, wrth gwrs, ond os ydym am gael rhestrau o lyfrau Cymraeg byddai disgwyl i ni gynnwys llyfrau a gyhoeddwyd cyn y 1980au hefyd. Oni bai bod rhestrau cyfleus ar gael ar-lein rywle mae hynny'n goblyn o dasg, a deud y lleia. Yn y cyfamser efallai y dylem nodi terfynau amser y rhestrau sydd gennym yma. Ydyn nhw i gyd yn llyfrau sydd mewn print, er enghraifft? Neu ydyn nhw'n cynnwys llyfrau a gyhoeddwyd ar ôl y Flwyddyn N?

Yr ail bwynt ydy'r dolenni coch. A oes gynllun gennyt i'w llenwi rywbryd? Os nad oes dwi'n amau bydd y mwyafrif helaeth yn aros yn goch am byth.

Pethau i'w ystyried! Anatiomaros (sgwrs) 21:36, 13 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr. Mae ateb i'r cyntaf ar frig y dudalen: "Sefydlwyd y gronfa ym 1996 a chynhwysir pob llyfr oedd ar gael ar y pryd a phob llyfr sydd wedi ymddangos ers hynny". Dyna union eiriad y Cyngor Llyfrau. Mi fum yn ystyried rhoi'r terfynau amser rheiny yn y teitl. O ran cynnwys pob llyfr Cymraeg, mi wna i ofyn i LlGC a oes ganddyn nhw gronfa ohonyn nhw. Dw i'n siwr bod. A gellid ychwanegu'r rheiny.
Yn ail, y dolenni coch: yn y drafodaeth a gafwyd ar y 3,300 o adolygiadau a roddwyd i ni i'w cyhoeddi ar Wici cafwyd sawl sylw negyddol a mi fydd yn rhaid i mi gytuno a barn y mwyafrif (er mod i'n anghytuno'n llwyr!) Roedd gen ti sylw yn y fan honno (yn y caffi) nad yw pob llyfr yn haeddu erthygl a chytunaf a hynny'n llwyr! Mae un erthygl ar gyfres yn ddigon wrth gwrs a gellid dileu'n dolenni coch ar unrhyw lyfr nad yw'n haedu erthygl. Bwriadaf wneud ychydig o hyn yn ystod yr wythnosau ac mae croeso i bawb fwrw ati fel hyn. Y default a awgrymaf felly ydy creu erthygl oni bai bod gwrthwynebiad / barn bersonol. Yn bersonol, ar wahan i lond llaw, (a rhai mathau fel llyfrau plant, a hunangofiannau hunanol) ychydig iawn o lyfrau faswn i'n medru eu hepgor gan nad ydw i'n darllen llyfrau papur ers blynyddoedd. Y rhai sy'n weddill (gyda dolenni), mi wna i greu erthyglau byr efo gwybodlen o'r manylion.
Un mater arall: fe all ein categoriau ni (wici) fod yn wahanol i gategoriau'r CLlC, wrth gwrs! mi adawaf hynny i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:30, 13 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Diolch am dy ymateb. Ymateb "sydyn" oedd yr uchod, heb sylweddoli bod y brif erthygl yn nodi'r "terfynnau" (ond dydy'r lleill ddim).
Gweler hefyd Sgwrs:Rhestr Llyfrau Cymraeg/Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau a Sgwrs:Rhestr Llyfrau Cymraeg/Iaith, Gramadeg a Geiriaduron.
Ond cawn drafod a datrys hyn oll eto, does dim brys arbennig. Anatiomaros (sgwrs) 22:43, 13 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
ON Dwi wedi rhoi pob tudalen yn y categori Categori:Rhestrau llyfrau Cymraeg heblaw am ddau a hynny achos eu bod yn anferth ac yn debyg o orlwytho cof fy pc hynafol druan (!), oedd yn gwichian am hir wrth geisio cadw tudalen gyda rhyw 1,500 o deitlau. Tybed fedru di eu gwneud nhw? Dyma nhw: 'Deunydd Addysgol' (3,146!) a 'Plant (Cerddi, Storïau)'. Mae angen y categori 'Categori:Rhestrau llyfrau Cymraeg' yn achos y ddau, h.y. 'Categori:Rhestrau llyfrau Cymraeg|Deunydd Addysgol' a 'Categori:Rhestrau llyfrau Cymraeg|Plant (Cerddi, Storiau)'. Gallai'r cyntaf fynd yn Categori:Addysg Gymraeg hefyd a'r ail yn Categori:Llenyddiaeth plant Gymraeg (sef fel 'Categori:Llenyddiaeth plant Gymraeg|* '). Diolch i ti, a nos da! Anatiomaros (sgwrs) 23:06, 13 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Arbennig. Ydy'r manylion yma ar gael yn gyhoedduds ar-lein, neu mond wedi cael y rhestr drwy law CLlC ar ffurf ebost wyt ti? Yr unig 'gŵyn' sydd gennyf ydy nad yw'n hawdd sortio y dyddiadau. At eto, os yn cael tabl o'r fath (drwy Excel?), oes modd trosi'r dyddaid i rhywbeth fel BBBB-MM-DD.--Rhyswynne (sgwrs) 12:42, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno â Rhys ynglŷn â chael trefn yn ôl dyddiad cyhoeddi (neu yn ôl yr wyddor), os ydy'n ymarferol.
Ynglŷn â'r rhestrau anferth gyda miloedd o lyfrau. Maen nhw'n llawer rhy faith i fod yn ddefnyddiol yn fy marn i (heb sôn am yr hasl o'u golygu!). Dylem eu torri i fyny yn adrannau llai e.e. 'Deunydd addysgol (rhan 1)' etc.
Pwynt arall: Mae rhai o'r llyfrau ar y rhestrau llenyddiaeth yn adargraffiadau diweddar o glasuron e.e. cyhoeddwyd Cyn Oeri'r Gwaed am y tro cyntaf yn 1952 ond mae'r rhestr yn rhoi'r argraff ei fod yn llyfr a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y 1990au. Camarweiniol.
Pwynt arall eto: Mae sawl dolen las yn arwain at erthygl am berson ayyb yn hytrach na'r llyfr, e.e. Blaenau Ffestiniog ac Adenydd.
Byd llawer o fanion eraill i'w datrys mae'n siwr, ond dyna ddigon am rwan. Anatiomaros (sgwrs) 17:14, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Mae'r dyddiadau fel pob colofn arall yn hawdd eu sortio: cliciwch ar y diamwnt ar y dde i bob teitl. Mae hyn yn eu gosod yn nhrefn amser neu'r Wyddor. Mae torri'r rhestrau hirion yn llai'n syniad da, ac yn hawdd i'w wneud: mi ychwanegaf y categoriau ynddynt hefyd. O ran dyddiadau adargraffiadau: soniais uchod mai rhestr syml oedd hon i fod, neu mi fyddai'n llai defnyddiol - gormod o wybodaeth ynddi, felly ni wnes i gynnwys colofnau fel hyn a mi fydd y ddolen yn arwain at wybodaeth am y llyfr lle bydd yn gwbwl amlwg beth oedd y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol. Colofn arall na wnes i gynnwys oedd - a ydy'r llyfr mewn print ai peidio. Dolenni glas yn arwain at berson: mae cyn lleied ohonyn nhw, mateb bach fydd ychwanegu'r gair llyfr mewn cromfachau, er mwyn gwahaniaethu. Dw i'n gweld fod Deb wedi bod yn brysur yn rhoi dolenni ar enwau'r sgennwyr, cyfieithwyr, golygyddion. Penderfynais beidio a gwneud hyn gan nad oedd pob un yn haeddu erthygl arnyn nhw ac er mwyn cadw'r pwyslais ar y llyfr. I ateb Rhys: dw i ddim yn gwybod a ydy'r rhestr hon ar gael yn unman arall. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:56, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Dim ond ar ôl dechrau ychwanegu (i'r rhestr Natur, Daearyddiaeth a Daeareg) nifer o lyfrau a gyhoeddwyd cyn dyddiau'r Cyngor Llyfrau, y darllenais y sylwadau hyn (ynglŷn ag ystod amser y rhestr). Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw dechrau rhestri llyfrau gwyddonol a thechnolegol. Mi wn fod eraill wedi ymwneud a'r gwaith yma (gweler tudalennau’r Casglwr), ac ni fuaswn yn defnyddio ei gwaith heb gydnabyddiaeth/caniatâd (lle bo'n briodol). A ddylwn agor tudalen annibynnol ? --Deri (sgwrs) 17:44, 26 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
Os ei di i wefan Cymd Bob Owen, dos lawr i waelod y wefan a mi weli 'Trwydded Creative Commons 3.0 ' - hy gallem ddefnyddio'r cwbwl lot! Ond dylid nodi'r ffynhonnell wrth gwrs. Y ffordd arall o wneud hyn yw sicrhau fod y cyhoeddiadau hefyd yn mynd ar Wicidata, er mwyn creu rhestr yn awtomatig. Cell Danwydd (sgwrs) 06:32, 27 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
Diolch o galon. Nawr bydd yn rhaid imi ddysgu am Wicidata. --Deri (sgwrs) 09:18, 27 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
Os canolbwyntia di ar y rhestr, fe all eraill eu rhoi ar Wicidata. Dim ond chydig y gwn i amdano! Cell Danwydd (sgwrs) 09:42, 27 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

Sylwadau pellach ar 'Astudiaethau ar yr Hengerdd[golygu cod]

Unrhyw sylwadau ar yr erthygl hon ac Anecdotau Llenyddol ayb os gwelwch yn dda? Mae'r ail frawddeg yn bodoli oherwydd na allaf dreiglo enw'r wasg yn hawdd (oherwydd y gronfa ddata) - ee 'gan Wasg Gwynedd'; yn hytrach dw i wedi defnyddio'r patrwm 'Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 01 Ionawr 1987'. Yn ail, dw i ddim wedi cyfeirio at yr adolygiad ar Gwales, yn unol a barn y mwyafrif yn y Caffi. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:57, 17 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Tri sylw sydyn.
1. Dydy o ddim yn hawdd cael y manylion yn iawn gyda'r bot. Yn achos Astudiaethau ar yr Hengerdd, mae'n llyfr sy'n cynnwys erthyglau Cymraeg a Saesneg, a golygwyr yn unig yw'r "awduron".
2. Dwi ddim yn hoff o eiriad y categori oherwydd mae'n mynd yn llwyr yn erbyn ein confensiynau enwau categoriau (nid jest yma ond ar draws Wicipedia, yn cynnwys Comin). Beth am ei newid i 'Astudiaethau llenyddol Cymraeg' neu 'Astudiaethau llenyddol yn Gymraeg'?
3. Hyd yn oed ar ôl newid enw'r categori mae 'na broblemau. Er enghraifft, Aristoteles - Barddoneg, sy'n gyfieithiad o waith Groeg enwog Aristotlys yn hytrach nag 'astudiaeth lenyddol Gymraeg' (mae'r rhagymadrodd i'r llyfr yn astudiaeth wrth gwrs...).
Pethau i'w datrys eto!Anatiomaros (sgwrs) 21:07, 17 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
4. Yn achos golygiadau academaidd o destunau llenyddol, dwi ddim yn gweld ei bod yn gwneud llawer o synnwyr i gael erthyglau am olygiadau o'r testunau hynny yn hytrach nag erthyglau am y testunau eu hunain. Enghraifft: Yr Anterliwt Goll, sy'n argraffiad o anterliwt gan fardd dienw gyda'r teitl Barn ar Egwyddorion y Llywodraeth. Beth am anwybyddu llyfrau o'r fath am rwan? Digon o waith i'w wneud yn y cyfamser! Anatiomaros (sgwrs) 21:24, 17 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
1. Mae colofn yn y gronfa ddata gyda naill ai 'Cymraeg' fel iaith y llyfr neu 'Cymraeg a Saesneg'. 'Cymraeg' yw'r hyn sydd wedi ei nodi ganddyn nhw: gweler yma.
2. Ti'n iawn; mi newidiaf y sgript i 'Astudiaethau llenyddol Cymraeg'.
3. Fe ddywedir hefyd 'Mae'r gyfrol hon yn ailargraffiad o gyfieithiad Cymraeg gwerthfawr', sy'n gywir. Be mae hyn yn ei ddangos, fodd bynnag ydy fod yn rhaid bwrw golwg ar bob un yn ei dro yn hytrach na'u hotomeiddio. Neu bod mor niwlog / benagored fel ei fod yn golygu dim ee 'Llyfr Cymraeg ydy Aristoteles - Barddoneg.'
4. Fedri di ddileu'r rhai hynny nad ydynt yn haeddu erthygl amdanynt?
Diolch yn fawr i ti am dy sylwadau. Mi wnaf un neu ddau arall; felly cadwa dy lygad led y pen. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:42, 17 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Diolch Llywelyn.
1. "Peidiwch a choelio pob dim dach chi'n weld ar y rhyngrwyd!" Mae'r llyfr ar fy silffoedd ac mi fedra i sicrhau ei fod yn cynnwys erthyglau yn Gymraeg (10 erthygl) a Saesneg (5 erthygl). Yn ogystal mae fframwaith y gyfrol (rhagair, rhagymadrodd, mynegai) yn ddwyieithog ac er mai 'Astudiaethau ar yr Hengerdd' yw'r prif deitl ceir 'Studies in Old Welsh poetry' fel is-deitl ar y dudalen deitl a'r clawr.
2. Diolch!
3. Paid a phoeni. Cawn droi 'Aristotles - Barddoneg' yn erthygl am waith enwog 'rhen Aristo yn nes ymlaen (rhywbryd!), efallai.
4. Dim prob, neu eu hailgyfeirio efallai?
Diolch eto. Mae dy waith bot yn wych, ar y cyfan, ond mae'r manion fel hyn yn dangos bod angen bod dynol i gadw golwg ar bethau hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 22:03, 17 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Tanciw!
1. Do 'n i ddim yn ama! Mynegi o'n i fy siom (eto, fel gyda cronfa ddata Cadw stalwm) o gangyms sylfaenol ar wefan Gwales a'u bas data. Fel arfer, fi sy'n eu gwneud!
4. Y naill neu'r llall yn gret. Os ydy'r erthygl yn bodoli, mi wneith BOT gadw'i lwyth yn ol a pheidio a'i ollwng.
Un mater bach arall: dw i newydd feddwl y gallwn i gynaeafu'r lluniau sydd ar Gwales a'u cyrchu draw i Wici! Mae'n golygu rhedeg Bot arall ar gyfrifiadur arall a'u huwchlwytho as y mas-uwchlwythwr ddefnyddiais ar Comin tua tair wythnos yn ol. Llinell ychwanegol wedyn yn nhemplad y Bot cyfredol a dyna ni! (Mond tuag wythnos o waith!) Ond Mam bach - dyna gannoedd o erthyglau gyda'r clawr yn weladwy. Efallai y gofynaf am gymorth ar Comin i gynaeafu'r delweddau; mi wneith hynny arbed tridia! Wna i ddim uwchlwytho chwaneg am ychydig, felly i mi edrych ar hyn ac i tithau chwynnu chydig ar y dolennau i erthyglau di-angen. Efallai fod eu dileu efo'r Golygydd Gweladwy yn gynt? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:29, 17 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Ymhellach at fy syniad uchod o gynaeafu'r delweddau, dw i wedi, bellach, sicrhau bot i wneud hyn (FaeBot), gyda'r cadarnhad mai 'Trwydded Defnydd Teg' fyddai'r callaf. Syniada arall ydy casglu criw 'Cymdeithas Lenyddol Llanbidyn Nodyn' at ei gilydd i weithio ar yr egin a ddarperir ee gwiro a chrynhoi tameidiau (niwtral!) o'r adolygiadau. Unrhyw sylwadau? Mae hyn wedi gweithio yng Nghatalonia'n ddiweddar, gydag un neu ddau yn troi'n ddeg, a channoedd yn troi'n chwaneg, chwedl Alan Llwyd. Unrhyw wrthwynebiad i hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:44, 21 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Y gwaith sy'n aros...[golygu cod]

Gweler Sgwrs:Rhestr Llyfrau Cymraeg/Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin. Mae'n gofyn amynedd Job i fynd trwy'r cyfan a dim ond rhestr "fer" ydy hi mewn cymhariaeth â rhai o nhw. Duw a'n helpo! Eu cwtogi'n bur sylweddol gan chwynnu'r llyfrynnau di-nod a'r llyfrau lluniau cerdyn post ayyb ydy'r unig ateb. Anatiomaros (sgwrs) 01:11, 8 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]