Sgwrs:Rhestr Llyfrau Cymraeg/Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Sawl dolen am un llyfr[golygu cod]

Mae hyn yn cynnwys nifer o arweinlyfrau Ffrangeg, Almaeneg ayyb sydd i gyd yn gyfieithiadu o waith Saesneg neu Gymraeg, e.e. Chateau de Conwy. Anatiomaros (sgwrs) 22:37, 13 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Dwi wedi tynnu llwyth o rwts o'r rhestr, sef yr arweinlyfrau mewn ieithoedd estron (a Saesneg!), e.e. 'Willkommen in Machynlleth (Almaeneg)','Bienvenue - Betws-y-Coed (Ffrangeg)','Bienvenue - Llanberis (Ffrangeg)' etc etc etc. Chwaneg i'w wneud eto... Anatiomaros (sgwrs) 18:39, 19 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

Gwyliau Beicio Cymru[golygu cod]

Copiwyd o'r dudalen Sgwrs:Gwyliau Beicio Cymru: Aberaeron a'r Cei Newydd (dileuwyd rwan):

Ydy hyn yn haeddu lle ar Wici?[golygu cod]

Llyfryn dwyieithog 16 tudalen, sef 8 tudalen o Gymraeg! Mae hyn yn crafu gwaelod y barel braidd. Anatiomaros (sgwrs) 23:21, 15 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Cytuno. Mae mwy ohonynt hefyd.--Rhyswynne (sgwrs) 09:09, 16 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Chwaneg[golygu cod]

Fel mae Rhys yn dangos uchod, ceir rhagor: Gwyliau Beicio Cymru: Trefdraeth, Sir Benfro, Gwyliau Beicio Cymru: Saundersfoot, Sir Benfro, Gwyliau Beicio Cymru: Dyffryn Tywi, Gwyliau Beicio Cymru: Dolgellau – Eryri, Gwyliau Beicio Cymru: Tregaron a Llanbedr Pont Steffan, Gwyliau Beicio Cymru: Aberteifi, Gwyliau Beicio Cymru: Pen Llyn. Dwi'n cynnig dileu'r cwbl (a'r ffeiliau delwedd hefyd), fel mae Llywelyn eisoes wedi gwneud yn achos 'Gwyliau Beicio Cymru: Aberaeron a'r Cei Newydd'. Anatiomaros (sgwrs) 22:07, 16 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Mae na gynnwys yn yr erthyglau yma - yn wahanol i'r erthyglau un frawddeg gwta sy'n ymddangos (ac yn aros!) yn aml. Tydy seiclo ddim yn llai pwysig / nodedig na barddoniaeth Gymraeg neu unrhyw thema arall. Mae'r cynnwys i mi'n bwysicach na'r thema. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:39, 16 Medi 2014 (UTC)[ateb]
Ond does 'na ddim cynnwys gwerth sôn amdano, neu o leia does dim mwy o "gynnwys" yn y rhain nag oedd yn y dudalen am y llyfryn 16 tudalen (8 yn Gymraeg) o'r un gyfres, man cychwyn y drafodaeth yma, ac a ddileuwyd gen ti y bore 'ma. Dydy o ddim yn achos o feddwl bod seiclo neu unrhyw bwnc arall o lai o bwys ond mae'n rhaid tynnu llinell rhywle. Mae'n braf cael llwyth o dudalennau newydd i chwyddo safle'r Wici yn yr ystadegau - brysied y 100,000fed! - ond be nesa, taflenni bws? Anatiomaros (sgwrs) 23:14, 16 Medi 2014 (UTC)[ateb]
Rhwng difri a chwarae: cymerwch gip ar y rhestr hon ar en! Mewn difri! Ac yn chwaeus! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:08, 9 Hydref 2014 (UTC)[ateb]