Sgwrs:Rhestr Llyfrau Cymraeg/Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Trefn[golygu cod]

Dwi newydd treulio dros hanner awr yn ceisio tacluso'r rhestr yma - cywiro dolenni, cael gwared o Saesneg diangen ayyb - ond heb cyrraedd traean o'r ffordd i fyny'r rhestr (wnes i ddechrau o'r gwaelod). Roeddwn i'n cael fy nhemtio i dynnu hanner y teitlau ohono. Mae 'na beth wmbredd o bethau fel casgliadau o hen luniau cerdyn post, llyfrynnau bychain fel arweinlyfrau i henebion a ballu. Yn ogystal ceir pob argraffiad o'r cofnodolyn Cof Cenedl (mae erthygl gennym yma yn barod, fel y gwelwch). Heb sôn am y teitlau hir diangen, etc etc etc. Mewn gair, mae angen lot o waith ar hyn cyn creu'r erthyglau. Anatiomaros (sgwrs) 01:06, 8 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

Finna run modd. Dw i'n dechra troi ar fy sowdl, fodd bynnag, yn fy marn ar gyfresi. Mae rhai llyfrau mewn cyfres yn dilyn ei gilydd, ac mae un erthygl ar y gyfres gyfan yn ddigon. Efallai y gallem restru'r llyfrau unigol yn yr erthygl hon, fel cam 2 yn y gwaith. Mae eraill yn llyfrau annibynol, swmpus, safonol ee Cyfres y Cymoedd: Cwm Gwendraeth a byddai'n drist eu dileu. Bydd y teitlau dwyieithog yn cael eu cwtogi - i'r Gymraeg yn unig. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:30, 8 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]