Set deledu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y teledu cyntaf i gael ei fasgynhyrchu oedd yr RCA 630-TS, a werthwyd rhwng 1946–1947.
Dwy set deledu a gynhyrchwyd yn Ne Corea yn 2012.

Dyfais electronig yw'r set deledu (neu fel arfer, yn syml, teledu) a ddefnyddir mewn cartrefi i wylio'r hyn sy'n cael ei ddarlledu neu ei lawrlwytho o'r we: rhaglenni dogfen, ffilmiau, newyddion y dydd ayb. Cyflwynwyd y teledu analog yn fasnachol ar ddiwedd y 1920au, a daeth yn hynod o boblogaidd wedi'r Ail Ryfel Byd gyda'r tiwb pelydrau catod yn rhan hanfodol ohono. Du a gwyn oedd y lluniau tan y 1960au ac roedd y teledu yr adeg honno, o ran siap, yn debyg i giwboid; mewn rhai llefydd galwyd ef yn focs. Ystyrir y teledu yn un o brif nwyddau traul y byd.

Pan ddyfeisiwyd Betamax, VHS a DVD, defnyddid y teledu er mwyn gwylio'r cynnwys: ffilmiau ayb. A'r teledu hefyd oedd y ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyfrifiadur personol, pan ddaeth hwnnw i olau dydd yn ei ffurf cynharaf e.e. Timex Sinclair 1000, a'r consol gemau e.e. Atari, yn nechrau'r 1980au. Yn y 2010au gwelodd y 'llen deledu' olau dydd ar ffurf LED LCD, a daeth oes y tiwb pelydrau catod i ben.[1] Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol a ddaeth ar ddechrau'r 21g, teledu 3D, a theledu cadraniad uchel (HDTV: 720p, 1080i a 1080p).[2][3] [4] [5] [6]

Bathwyd y term Cymraeg 'teledu' gan Cassie Davies, Dan Richards ac Urien Wiliam yn 1953 a hynny ar wahan i'w gilydd.[7]

Cefn y teledu, gan ddangos y tiwb pelydrau catod.

Hanes y set deledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl datblygiad radio fe weithiodd sawl dyfeisiwr i ddatblygu ffordd o ddarlledu lluniau gyda sain. Un o'r rhain yng ngwledydd Prydain oedd yr Albanwr John Logie Baird. Yn gyffredinol fe gyfrir at Philo T Farnsworth o Rigby, Idaho yn yr Unol Daleithiau fel dyfeisydd y system fodern o deledu ym 1928. Roedd teledu ar gael i'r cyhoedd o'r 1930au hwyr ymlaen ac mae nawr yn rhan allweddol o fywydau pobl trwy'r byd.

Fel atodiad i'r radio y daeth y set deledu cyntaf i olau dydd: rhoddwyd tiwb neon y tu ôl iddo a oedd yn creu llun symudol maint stamp, gyda chwyddwydr yn dyblu ei faint. Gwerthwyd "Televisor" Baird rhwng 1930 a 1933 yng ngwledydd Prydain, sef y set deledu masnachol cyntaf a gwerthodd y cwmni 1,000 o unedau.[8]

Lansiodd y gwyddonydd Kenjiro Takayanagi o Japan ddyfais a oedd yn cynnwys y tiwb pelydrau catod cyntaf yn 1926 mewn ysgol.[9] Gelwir ef yn dad y teledu gan fod yn y teledu hwn hefyd ddyfais a oedd yn derbyn tonnau a ddarlledwyd, a'u trosglwyddo'n llun a llais.[10] Ond weddi'r rhyfel, ataliwyd ef rhag ymchwilio ymhellach gan Unol Daleithiau America.[9]

Du a gwyn oedd y lluniau cyntaf ond newidwyd i luniau lliw yn y 1960au. Yn y 1970au fe ddatblygwyd ffurf fasnachol i'r cyhoedd recordio rhaglenni teledu - y recordydd caset fideo (neu VCR) - a defnyddiwyd y casetiau hyn i werthu ffilmiau i'r cyhoedd i wylio gartref. Erbyn y 200au defnyddid DVDau i wylio ffilmiau ac erbyn y 2010au lawrlwythwyd ffilmiau 'r we e.e. Netflix. Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol, teledu 3D, a theledu cadraniad uchel (HDTV).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]