Sean Fletcher
Sean Fletcher | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ebrill 1974 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gohebydd chwaraeon |
Cyflogwr | |
Gwefan | https://www.seanfletcher.co.uk/ |
Mae Sean Fletcher (ganwyd 20 Ebrill 1974) yn newyddiadurwr a phersonoliaeth radio Americanaidd-Prydeinig, sydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda ITV a'r BBC.
Mae Fletcher yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd chwaraeon ar Good Morning Britain ac fel gohebydd ar Countryfile. Mae hefyd wedi cyflwyno sioe gêm ITV yn ystod y dydd Rebound (2015–2016) a sioe siarad bore Sul Sunday Morning Live (2017-presennol).
Bywyd ac addysg gynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Sean Fletcher yn Ninas Efrog Newydd i fam a anwyd yn Simbabwe a thad o Loegr. Cafodd ei fagu yn Simbabwe ac Essex.
Addysgwyd Fletcher yn Ysgol Felsted, ysgol annibynnol ym mhentref Felsted (ger Great Dunmow) yn Essex, ac yna King's College Llundain, lle cafodd radd mewn Daearyddiaeth.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl hyfforddi fel cynhyrchydd cerddoriaeth, cychwynnodd Fletcher ar ei yrfa newyddiaduraeth yng Nghaerdydd, gan gynhyrchu pecynnau ar gyfer BBC Radio Wales. Yna symudodd i Lundain i weithio y tu ôl i'r llenni yn Radio 5 Live. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach dechreuodd weithio ar BBC 2W, y sianel deledu ddigidol yng Nghymru. Cyflwynodd ac adroddodd hefyd ar chwaraeon ar gyfer BBC Wales Today.
Rhwng 2005 a 2011, cyflwynodd Fletcher fwletinau chwaraeon ar y sianel newyddion BBC News, ac mae hefyd wedi cyflwyno chwaraeon ar BBC Weekend News a BBC Breakfast ar BBC One yn ogystal â BBC World News. Ym mis Mawrth 2010, cychwynnodd Fletcher fel gohebydd newyddion ar gyfer BBC Breakfast.
Ym mis Hydref 2011, gadawodd Fletcher y BBC i ymuno â Sky Sports News, lle bu’n gweithio nes iddo adael yn gynnar yn 2014.
Ar 3 Mawrth 2014, cyhoeddwyd y byddai Fletcher yn dod yn ddarllenwr newyddion chwaraeon ar raglen newydd ITV Breakfast Good Morning Britain.[1] Ymddangosodd gyntaf ar y rhaglen ar ddiwrnod cynta'r rhaglen, 28 Ebrill 2014.
Yn 2015, cyflwynodd Fletcher Rebound, sioe gêm ddeg rhan yn ystod y dydd ar gyfer ITV, gan ddarlledu yn y slot 5 o'r gloch y prynhawn. Cynhyrchwyd a darlledwyd ail gyfres o'r sioe yn 2016. Ym mis Medi 2015, ymddangosodd mewn pennod o All Star Mr & Mrs ochr yn ochr â'i wraig Luned.
Ers mis Hydref 2015, mae Fletcher wedi bod yn ohebydd achlysurol i Countryfile ar BBC One.
Cyd-gyflwynodd Fletcher gyfres BBC Two Food Detectives ochr yn ochr â Tom Kerridge ac Alice Roberts yn 2016. Ers 2017, mae wedi cyflwyno rhaglen BBC One fore Sul Sunday Morning Live ochr yn ochr ag Emma Barnett. Mae hefyd wedi bod yn gyd-gyflwynydd achlysurol ar raglen BBC One Sunday Songs of Praise.
Ym mis Medi 2017, disodlodd Fletcher Matthew Wright fel cyflwynydd rhaglen materion cyfoes y BBC Inside Out London. Ym mis Hydref 2017, cyd-gyflwynodd Britain's Classroom Heroes gyda Naga Munchetty ar BBC Two.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Fletcher yn siarad Cymraeg, ac mae'n briod â'r chynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu Cymreig Luned Tonderai. Mae gan y cwpl ddau o blant; Lili a Reuben.
Gwaith Elusen
[golygu | golygu cod]Yn 2014, daeth Fletcher yn llysgennad enwog i elusen y DU, Balls to Cancer. Ym mis Medi 2015, daeth Sean yn llysgennad i'r elusen Beating Bowel Cancer. Rhedodd Farathon Llundain 2015 a 2016 i godi arian i'r elusen. Yn 2017, rhedodd Fletcher Farathon Llundain ar gyfer Heads Together ac Young Minds UK.
Yn 2016, chwaraeodd i dîm 'Gweddill y Byd' yng ngêm bêl-droed enwogion ar ITV, Soccer Aid, sy'n cefnogi UNICEF UK.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Susanna Reid quits BBC for ITV". BBC News Online. 3 March 2014.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Sean Fletcher ar wefan Internet Movie Database
- Gwefan swyddogol Sean Fletcher Archifwyd 2020-11-01 yn y Peiriant Wayback
- Sean Fletcher ar Twitter
- Sean Fletcher – Good Morning Britain ar itv.com