Santa Fe
Santa Fe | |
---|---|
Lleoliad o fewn | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Ardal | New Mexico |
Llywodraeth | |
Awdurdod Rhanbarthol | Llywodraeth rheolwr-cynghorol |
Maer | David Coss |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 96.9 km² |
Uchder | 2,1341 m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 67,947 (Cyfrifiad 2010) |
Dwysedd Poblogaeth | 744 /km2 |
Metro | 144,170 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | EST (UTC-7) |
Cod Post | 87500-87599 |
Gwefan | http://www.santafenm.gov/ |
Santa Fe, neu Santa Fé, (Sbaeneg, "Ffydd Sanctaidd"; ffurf lawn: La Villa Real de la Santa Fé de San Francisco de Asís, Cymraeg: Dinas Frenhinol Ffydd Sanctaidd St. Ffransis o Assisi) yw prifddinas talaith New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Mae'n gorwedd ar lan Afon Santa Fe.
Santa Fe yw dinas fwyaf a chanolfan sirol Swydd Santa Fe. Roedd ganddi boblogaeth o 62,543 yn ôl cyfrifiad 2000, ond erbyn 2005 amcangyfrifwyd poblogaeth o 70,631, gan ei gwneud yn ddinas drydedd fwyaf New Mexico. Mae'r ddinas yn gorwedd bron i 7,000 troedfedd (2,132 meter) uwchben lefel y môr, mewn cymhariaeth ag Albuquerque gyfagos, dinas fwyaf y dalaith, ar 5,352 troedfedd (1,631 m). Santa Fe yw'r brifddinas daleithiol uchaf yn yr Unol Daleithiau felly.
Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymwelodd y bardd T. H. Parry-Williams â Santa Fe yn 1935. Yr hyn a'i atynai yn bennaf oedd yr enw:
- 'R wy'n mynd yn rhywle, heb wybod ym mh'le,
- Ond mae enw'n fy nghlustiau — Santa Fe,
- A hwnnw'n dal i dapio o hyd
- Y dagrau sydd gennyf i enwau'r byd,—
- Yr enwau persain ar fan a lle:
- R wy'n wylo gan enw — Santa Fe.'
(Synfyfyrion, 1937)
Gefeilldrefi Santa Fe[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwlad | Dinas |
---|---|
![]() |
Bukhara |
![]() |
Parral |
![]() |
Zacatecas |
![]() |
Santa Fe |
![]() |
Sorrento |
![]() |
Tsuyama |
![]() |
West Kanpur |
![]() |
Holguín |
![]() |
Bogotá |
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan Dinas Santa Fe