Samuel Warren
Gwedd
| Samuel Warren | |
|---|---|
Samuel Warren, gan John Linnell (m. 1882). | |
| Ganwyd | 23 Mai 1807 Wrecsam |
| Bu farw | 29 Gorffennaf 1877 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, nofelydd, ysgrifennwr |
| Swydd | Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig |
| Mudiad | Rhamantiaeth |
| Tad | Samuel Warren |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Nofelydd o Gymru a bargyfreithiwr oedd Samuel Warren (23 Mai 1807 - 29 Gorffennaf 1877). Roedd yn nofelydd pur boblogaidd ganol y 19g. Cafodd ei eni yn Wrecsam (Sir Ddinbych gynt).[1] Bu'n Aelod Seneddol dros Midhurst, Lloegr rhwng 1856-1859.
Ysgrifennodd Warren sawl llyfr ar y Gyfraith ond daeth i amlygrwydd fel llenor pan gyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1838, sef Passages from the Diary of a Late Physician. Dilynwyd hyn gan nofel arall, sef Ten Thousand a Year (1839), sy'n adrodd hanes twyllwr digywilydd yn codi yn y byd trwy ddichell. Dychanol yw naws y ddwy nofel hyn.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- Passages from the Diary of a Late Physician (1838)
- Ten Thousand a Year (1839)