Sachlian a Lludw
Gwlad | Cymru |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | heb ei chyhoeddi |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Math | Sioe Gymraeg |
Dyddiad y perff. 1af | 1971 |
"Sioe bop hwyr" a gyflwynwyd gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1971 oedd Sachlian a Lludw neu Sachlïan a Lludw, "syniad arall athrylithgar gan Wilbert [Lloyd Roberts]" yn ôl yr actores Sharon Morgan.[1] 'Cyflwyniad cinetig cyfoes' oedd y disgrifiad swyddogol, gyda grwpiau pop y cyfnod fel y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, y Tebot Piws, y Diliau, Meic Stevens, James Hogg ac Heather Jones yn cymryd rhan.
Disgrifiai Sharon Morgan y sioe fel hyn:
"Nos Lun tan nos lau yn y Coleg Technegol am ddeg or gloch odd e'n dweud ar y rhaglen ac o'n i ar y follow spot, lan yn uchel yn y sgaffalde yng nghefn y neuadd. O'n i mor flinedig ambell noson, bron i fi fynd i gysgu fel iâr ar ben scimbren".[1]
Actor arall sy'n hel atgofion am y sioe yw Mici Plwm yn ei hunangofiant.[2] Roedd Mici ar y pryd yn amlwg iawn fel 'DJ' (troellwr disgiau) felly yn gyfarwydd iawn â sîn roc y cyfnod: "...roedd Wilbert [Lloyd Roberts] â'i glust ar y ddaear hefyd. Yn cydfynd â llwyddiant y disco yn Steddfod Bangor ac un arall wythnos yn ddiweddarach yng Nghorwen, fe aeth o ymlaen i drefnu Sachliain a Lludw ac fe agorodd yn y Coleg Technegol - sioe lwyfan anhygoel gyda Meic Stevens a Heather Jones ynghyd â'r defnydd o oleuadau. Y flwyddyn wedyn, yn Steddfod Hwlffordd, fe gynhyrchodd y Cwmni Theatr sioe arall i bobol ifanc, Gwallt Yn Y Gwynt. Cefais wahoddiad gan Wilbert i fynd i lawr i agor y sioe honno, a gâi ei chyfarwyddo gan Lyn T. Jones."[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Morgan, Sharon (2011). Hanes Rhyw Gymraes. Y Lolfa. ISBN 9781847713292.
- ↑ 2.0 2.1 Plwm, Mici (2002). Meical Ddrwg O Dwll Y Mwg. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860 741886.