S. E. Hinton
| S. E. Hinton | |
|---|---|
| Ffugenw | S.E. Hinton |
| Ganwyd | 22 Gorffennaf 1948 Tulsa |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr, awdur plant, hunangofiannydd, actor ffilm |
| Adnabyddus am | The Outsiders |
| Arddull | llenyddiaeth pobl ifanc |
| Gwobr/au | Gwobr Margaret Edwards |
| Gwefan | http://www.sehinton.com |
Awdur o'r Unol Daleithiau yw S. E. Hinton (ganwyd 22 Gorffennaf 1948[1]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, sgriptiwr ac fel awdur llyfrau i oedolion ifanc a phlant.[2] Lleolir llawer o'i gwaith yn Oklahoma, e.e. The Outsiders, a ysgrifennodd pan oedd yn yr ysgol uwchradd. Ym 1988 derbyniodd Wobr gyntaf Margaret Edwards gan Cymdeithas Llyfrgelloedd America am ei chyfraniad i lenyddiaeth ar gyfer pobl ifanc.[3][4][5]
Fe'i ganed yn Oklahoma lle mynychodd Ysgol Uwchradd Will Rogers a Phrifysgol Tulsa.
Yr awdur ifanc
[golygu | golygu cod]Tra yn ei harddegau, daeth Hinton yn enw adnabyddus drwy UDA fel awdur The Outsiders, ei nofel gyntaf a mwyaf poblogaidd, wedi'i gosod yn Oklahoma yn y 1960au. Dechreuodd ysgrifennu'r nofel ym 1965.[6] Ysbrydolwyd y llyfr gan ddau gang cystadleuol yn ei hysgol, sef y "Greasers" a'r "Socs", a'i hawydd i ddangos empathi tuag at y Greasers trwy ysgrifennu o'u safbwynt nhw. Cyhoeddwyd y nofel gan Viking Press ym 1967, yn ystod ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Tulsa.[7][8] Ers hynny, mae'r llyfr wedi gwerthu mwy na 14 miliwn o gopïau ac mae'n dal i werthu mwy na 500,000 y flwyddyn (2019).[9] [10][11]
Awgrymodd ei chyhoeddwr y dylai ddefnyddio ei blaenlythrennau yn lle ei henwau llawn fel na fyddai'r adolygwyr gwrywaidd yn gwrthod y nofel oherwydd bod yr awdur yn fenywaidd.[12] Ar ôl llwyddiant The Outsiders, dewisodd Hinton barhau i ysgrifennu a chyhoeddi gan ddefnyddio'i blaenlythrennau, oherwydd nad oedd am golli'r hyn a wnaeth yn enwog, ac er mwyn cadw ei bywyd preifat a'i bywyd chyhoeddus ar wahân.
Y person
[golygu | golygu cod]Mewn cyfweliadau, mae Hinton wedi nodi ei bod yn berson preifat a mewnblyg, nad yw bellach yn ymddangos yn gyhoeddus.[13] Dywedodd hefyd ei bod yn mwynhau darllen Jane Austen, Mary Renault, ac F. Scott Fitzgerald, cymryd dosbarthiadau yn y brifysgol leol, a marchogaeth.[14]
Mae hi'n byw yn Tulsa, Oklahoma gyda'i gŵr David Inhofe, peiriannydd meddalwedd, y priododd hi yn ystod haf 1970 ar ôl cwrdd ag ef yn ei dosbarth bywydeg yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y coleg.[15] Ym mis Awst 1983, daethant yn rhieni i Nicolas David Inhofe, a weithiodd fel recordydd effeithiau sain ar y ffilm Ice Age: The Meltdown.[16][17]
Nofelau i bobl ifanc
[golygu | golygu cod]- The Outsiders (1967)
- That Was Then, This Is Now (1971)
- Rumble Fish (1975)
- Tex (1979)
- Taming the Star Runner (1988)
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Margaret Edwards (1988) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "S E Hinton". New York Times. 2010. Cyrchwyd 9 Medi 2011.
- ↑ Pulver, Andrew (29 Hydref 2004). "When you grow up, your heart dies: SE Hinton's The Outsiders (1983)". The Guardian. Cyrchwyd 25 Mawrth 2010.
- ↑ Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 141063334, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 118984187, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 21 Gorffennaf 2026
- ↑ Dyddiad geni: https://www.oif.ala.org/oif/?p=10473. retrieved: 14 Ionawr 2022. https://www.who2.com/se-hinton-staying-gold-plus-two-years/. retrieved: 14 Ionawr 2022. "Hinton, S. E." SNAC. Cyrchwyd 14 Ionawr 2022. https://www.infoplease.com/people/who2-biography/se-hinton. retrieved: 14 Ionawr 2022. https://www.brainyhistory.com/events/1948/july_22_1948_393083.html. retrieved: 14 Ionawr 2022. https://www.allmovie.com/artist/p32477. AllMovie. retrieved: 14 Ionawr 2022. external ID: p32477. https://port.hu/adatlap/szemely/se-hinton/person-564274. PORT.hu. retrieved: 14 Ionawr 2022. external ID: 564274. (yn en) Notable Names Database, dynodwr NNDB (person) 376/000026298, Wikidata Q1373513, https://www.nndb.com/, adalwyd 14 Ionawr 2022 Národní autority České republiky, dynodwr NKC xx0160562, Wikidata Q13550863, http://autority.nkp.cz/, adalwyd 9 Hydref 2019 (yn en) ISFDB, dynodwr ISFDB (awdur) 2450, Wikidata Q2629164, https://isfdb.org/, adalwyd 14 Ionawr 2022
- ↑ Man geni: http://sehinton.com/bio.html.
- ↑ Smith, Dinitia (7 Medi 2005). "An Interview With S. E. Hinton: An Outsider, Out of the Shadow". New York Times.
- ↑ Peck, Dale (23 Medi 2007). "The Outsiders: 40 Years Later". New York Times.
- ↑ "About S. E. Hinton". Penguin Group USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2014.
- ↑ Italie, Hillel (3 Hydref 2007). "40 years later Hinton's 'The Outsiders' still strikes a chord among the readers". San Diego Union-Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 13 Mehefin 2019.
- ↑ Alma mater: https://www.who2.com/se-hinton-staying-gold-plus-two-years/.
- ↑ Galwedigaeth: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 118984187, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026
- ↑ "Staying Golden". Unsigned review of "Hawkes Harbor". New York Press. 28 Medi 2004. Cyrchwyd 25 Mawrth 2010.
- ↑ Heather Saucier, "INSIDE AN OUTSIDER // Noted Tulsa Author Prefers Family Life To Limelight", Tulsa World, 7 Ebrill 1997
- ↑ Emma Whitford, "Lev Grossman, S.E. Hinton, and Other Authors on the Freedom of Writing Fanfiction", Vulture.com, 13 Mawrth 2015
- ↑ "S.E. Hinton". tcmuk.tv.[dolen farw]
- ↑ Wilson, Antoine (2003). S. E. Hinton. Efrog Newydd: Rosen Central. t. 51.
- ↑ Nick Inhofe ar IMDb .