Russell Crowe

Oddi ar Wicipedia
Russell Crowe
GanwydRussell Ira Crowe Edit this on Wikidata
7 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
Wellington Edit this on Wikidata
Man preswylFinger Wharf Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Auckland
  • Sydney Boys High School
  • Vaucluse Public School
  • Mount Roskill Grammar School
  • Vaucluse High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cynhyrchydd ffilm, canwr, cerddor, actor cymeriad, sgriptiwr, actor ffilm, actor teledu, cyfarwyddwr ffilm, cyfansoddwr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGladiator, Man of Steel, The Insider, The Silver Brumby, A Beautiful Mind, The Water Diviner, Thor: Love and Thunder, Robin Hood, Les Misérables, Winter's Tale, Proof, Spotswood, Noah, Boy Erased, The Pope's Exorcist, Body of Lies, Master and Commander: The Far Side of The World, The Man with the Iron Fists, The Greatest Beer Run Ever, The Next Three Days Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt Edit this on Wikidata
Taldra1.82 metr Edit this on Wikidata
PriodDanielle Spencer Edit this on Wikidata
PerthnasauDon Spencer, Dave Crowe, Jeff Crowe, Martin Crowe, Lorraine Downes Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Canmlwyddiant, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobrau'r Academi, Golden Globes Edit this on Wikidata

Actor, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr a cherddor yw Russell Ira Crowe (ganwyd 7 Ebrill 1964). Er ei fod yn ddinesydd Seland Newydd mae wedi treulio rhan fwyaf o'i fywyd yn Awstralia.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Crowe ym maestref Strathmore Park yn Wellington, Seland Newydd,[1][2] yn fab i Jocelyn Yvonne (née Wemyss) a John Alexander Crowe,[3] ill dau yn arlwywyr ar setiau ffilm; roedd ei dad hefyd yn rheoli gwesty.[2] Roedd tadcu Crowe ar ochr ei fam, Stan Wemyss, yn sinematografydd a wnaed yn MBE am ffilmio yn yr Ail Ryfel Byd.[4] Roedd tadcu Crowe ar ochr ei dad, John Doubleday Crowe, yn hannu o Wrecsam,[5][6] tra fod hen-hen-famgu ar ochr ei fam yn Māori.[7]

Mae gan Crowe deulu o dras Seisnig, Almaenig, Gwyddelig, Eidalaidd, Norwyaidd, Albanaidd, Swedaidd a Chymreig.[8][9][10][11][12]


Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei yrfa actio ar ddechrau'r 1990au gyda rhannau mewn cyfresi teledu Awstralaidd megis Police Rescue a ffilmiau fel Romper Stomper. Ar ddiwedd y 1990au, dechreuodd ymddangos mewn ffilmiau Americanaidd fel L.A. Confidential. Mae ef wedi cael ei enwebu am dair Oscar ac yn 2001, enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau yn y ffilm Gladiator. Mae Crowe hefyd yn gyd-berchennog o dîm y Gynghrair Rygbi Cenedlaethol, y South Sydney Rabbitohs.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau eraill
1990 Blood Oath Lt. Jack Corbett
The Crossing Johnny Ryan Enwebwyd - Gwobr Cymdeithas Ffilm Awstralia - Actor Gorau mewn Prif Rôl
1991 Proof Andy Gwobr Cymdeithas Ffilm Awstralia - Actor Cefnogol Gorau
1992 Spotswood Kim Barrett
Romper Stomper Hando Gwobr Cymdeithas Ffilm Awstralia - Actor Gorau mewn Prif Rôl
1993 Hammers Over the Anvil East Driscoll
The Silver Brumby The Man (Egan)
For The Moment Lachlan Currie
1994 The Sum of Us Jeff Mitchell
1995 The Quick and the Dead Cort
No Way Back Asiant FBI Zack Grant
Virtuosity SID 6.7
Rough Magic Alex Ross
1997 L.A. Confidential Swyddog Wendell "Bud" White Enwebwyd— Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Gast mewn Ffilm
Heaven's Burning Colin O'Brien
Breaking Up Steve
1999 Mystery, Alaska Sheriff John Biebe
The Insider Jeffrey Wigand Enwebwyd — Gwobr yr Academi am yr Actor Gorat
Enwebwyd — Gwobr BAFTA am yr Actor Gorau mewn Prif Rôl]]
Enwebwyd — Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Gwrywaidd mewn Ffilm]]
2000 Gladiator Maximus Decimus Meridius Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau
Enwebwyd — Gwobr BAFTA am yr Actor Gorau mewn Prif Rôl]]
Enwebwyd — Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm]]
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Gast mewn Ffilm
Proof of Life Terry Thorne
2001 A Beautiful Mind John Nash Gwobr BAFTA am yr Actor Gorau mewn Prif Rôl
Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm
Enwebwyd — Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas Ffilm Awstralia - Actor Gorau mewn Prif Rôl
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Gast mewn Ffilm
Enwebwyd —— Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Gwrywaidd mewn Ffilm]]
2003 Master and Commander: The Far Side of the World Capt. Jack Aubrey Enwebwyd — Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm
2005 Cinderella Man Jim Braddock Enwebwyd — Cymdeithas Ffilm Awstralia - Actor Rhyngwladol Gorau
Enwebwyd — Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm]]
Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Gwrywaidd mewn Ffilm]]
2006 A Good Year Max Skinner
2007 3:10 to Yuma Ben Wade Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Gast mewn Ffilm
American Gangster Det. Richie Roberts Enwebwyd — Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Gast mewn Ffilm
2008 Tenderness Detective Cristofuoro
Body of Lies Ed Hoffman
2009 State of Play Cal McAffrey
2010 Robin Hood Robin Hood ffilmio

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Russell Crowe" (yn Saesneg). People in the News (CNN). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 30 Mehefin 2008.
  2. 2.0 2.1 "Russell Crowe Biography (1964–)" (yn Saesneg). FilmReference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2015. Cyrchwyd 10 Ebrill 2010.
  3. "Inside The Actors Studio With Russell Crowe. 4 January 2004 – Transcript" (yn Saesneg). Kaspinet.com. 4 Ionawr 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2008. Cyrchwyd 10 Ebrill 2010.
  4. "Inside The Actors Studio – Transcript" (yn Saesneg). kaspinet.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mawrth 2015.
  5. "Russell Crowe" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2006. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2006.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link) BBC. 30 June 2006.
  6. "English folklore brings Crowe back to Wales". The Leader (yn Saesneg). Wales. 5 Mai 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2015. Cyrchwyd 22 Chwefror 2013.
  7. "Russell Crowe ~ Russell ... Something to Crowe About!" (yn Saesneg). 5u.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016.
  8. "Entertainment | Russell Crowe: Hollywood livewire". BBC News (yn Saesneg). 7 June 2005. Cyrchwyd 10 Ebrill 2010.
  9. "Brits 'Sheepish' About 'Kiwi' Cousins Despite Close Historical Links" (yn Saesneg). Ancestry.co.uk. 5 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2012. Cyrchwyd 4 Mawrth 2011.
  10. "Ancestry entdeckt preußische Wurzeln des "Gladiator" Russell Crowe" (yn Almaeneg). Ancestryeurope.lu. 7 February 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-06. Cyrchwyd 4 Mawrth 2011.
  11. Russell Crowe [@russellcrowe] (6 Gorffennaf 2013). "Born NZ, live Australia,1 Welsh grandad,1 Scottish, also Italian, Norwegian & Maori heritage, also English in there but I don't mention that" (Trydariad). Cyrchwyd 4 Awst 2013 – drwy Twitter.
  12. "RootsWeb's WorldConnect Project: Johansen / Olsen Family Tree" (yn Saesneg). ancestry.com.
Baner Seland NewyddEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.