Gladiator (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gladiator (ffilm 2000))
Gladiator

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Ridley Scott
Cynhyrchydd Douglas Wick
David Franzoni
Branko Lustig
Ysgrifennwr David Franzoni
John Logan
William Nicholson
Serennu Russell Crowe
Joaquin Phoenix
Connie Nielsen
Oliver Reed
Richard Harris
Derek Jacobi
Djimon Hounsou
Ralf Moeller
Cerddoriaeth Hans Zimmer
Lisa Gerrard
Sinematograffeg John Mathieson
Golygydd Pietro Scalia
Dylunio
Cwmni cynhyrchu DreamWorks (UDA)
Universal Studios (Rhyngwladol)
Amser rhedeg 154 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Gladiator (2000) yn ffilm epig a gyfarwyddwyd gan Ridley Scott, ac sy'n serennu Russell Crowe, Joaquin Phoenix, Connie Nielsen, Oliver Reed, Djimon Hounsou, Derek Jacobi, a Richard Harris. Portreada Crowe y Cadfridog Maximus Decimus Meridius, ffefryn yr Ymerawdwr Marcus Aurelius a fradychir gan ei fab uchelgeisiol, Commodus (Phoenix). Wedi ei ddal a'i garcharu ar ymylon yr Ymerodraeth Rufeinig, dringa Maximus risiau'r arena gladitoraidd er mwyn cael dial am lofruddiaeth ei deulu a'i ymerawdwr.

Rhyddhawyd y ffilm yn yr Unol Daleithiau ar y 5ed o Fai, 2000 i adolygiadau canmoladwy. Enillodd bump o Wobrau'r Academi yn 73fed seremoni wobrwyo yr Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau a'r Actor Gorau (Crowe).

Saethwyd rhannau o'r ffilm yn Aït Benhaddou, Moroco.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.