Rws

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rus')
Rws
Map o brif lwybrau masnach Gogledd a Dwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, gan ddangos y Ffordd o'r Farangiaid i'r Groegiaid (porffor) a Llwybr Masnachol y Volga (coch) . Roedd angen rheoli cadarnleoedd, marchnadoedd a phorthladdoedd ar hyd y llwybrau'n ddigonol ar gyfer ysbeilwyr a masnachwyr Sgandinafia.
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Rhan oSlafiaid y Dwyrain Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pobl a drigai yn Nwyrain Ewrop yn ystod y cyfnod o ganol y 8g i'r 10g oedd y Rws. Cyfeirir atynt mewn sawl dogfen hanesyddol o'r Oesoedd Canol Cynnar ar draws Ewrop a'r Dwyrain Agos, a phriodolir iddynt ddatblygu trefi cynnar y Slafiaid Dwyreiniol a sefydlu gwladwriaeth gyntaf y bobloedd hynny, Rws Kyiv, yn 882. Rhoesent eu henw i wledydd Rwsia a Belarws, a rhanbarthau hanesyddol megis Rwsia Fawr, Rwsia Wen, Rwsia Fechan, a Rwthenia. Fodd bynnag, nid yw'n sicr taw'r Rws oedd hynafiaid y cenhedloedd Slafig Dwyreiniol modern—y Rwsiaid, y Belarwsiaid, a'r Wcreiniaid—nac yn frodorion i'r ardal. Mae'r mwyafrif o ysgolheigion yn cytuno taw Llychlynwyr oedd y Rws yn wreiddiol, er i rai awduron, yn enwedig yn Rwsia, mynnu taw llwyth Slafig brodorol oeddynt.

Rhyfelwyr a masnachwyr oedd y Rws, a oedd yn bresennol yng ngogledd-orllewin Rwsia ac ar hyd flaenau Afon Volga yn niwedd yr 8g ac yn y 9g. Buont yn cyfnewid crwyn anifeiliaid a chaethweision am arian a phethau moethus o'r dwyrain. Rhoddir yr enw "Chaganaeth y Rws" gan rai awduron diweddar ar gynghrair ragdybiedig o'r llwyth hwn, ar sail ambell ffynhonnell sydd yn cyfeirio at arweinydd y Rws fel chacanus, teitl o'r Hen Dyrceg sydd yn gyfystyr ag "ymerawdwr". Fodd bynnag, mae'r mwyafrif o hanesyddion yn gwrthod disgrifiad o wladwriaeth o'r fath yn y cyfnod hwnnw. Aeth byddin o'r Rws ar ryfelgyrch i'r de yn 860, gan warchae ar Gaergystennin. Er gwaetha'r ymgyrchoedd milwrol hyn, byddai cysylltiadau rheolaidd rhwng y Rws a diwylliant Bysantaidd ond yn datblygu'n ddiweddarach, perthynas a fyddai'n arwain at gristioneiddio'r Slafiaid Dwyreiniol—yr hyn a elwir "bedydd y Rws"—yn niwedd y 10g.

Yn ôl y cronicl hynaf yn llên y Slafiaid Dwyreiniol, Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen, gwahoddwyd tri brawd o'r Farangiaid—yr enw ar Lychlynwyr a ymsefydlodd yn Nwyrain Ewrop—i deyrnasu arnynt yng nghanol y 9g. Er ei bod yn ddogfen ddigon manwl, tybir fod rhywfaint o fytholeg genedlaethol a ffurf lenyddol yr arwrgerdd yn y stori o'r tri brawd, cymeriadau ffughanesyddol neu led-chwedlonol efallai, ac ni ellir cymryd popeth sydd yn y cronicl yn ganiataol. Serch, mae'r mwyafrif o hanesyddion yn ystyried y cronicl yn gywir wrth nodi tarddiad Llychlynnaidd y Rws.

Hanesyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae hanes ac hunaniaeth y Rws yn bwnc hynod o ddadleuol. Yn ôl y consensws ysgolheigaidd yn y Gorllewin, tarddodd y Rws o'r Farangiaid, o Sweden yn bennaf, a ymsefydlodd ar hyd yr afonydd rhwng y Môr Baltig a'r Môr Du yn y cyfnod o'r 8g i'r 11g. Pobl Germanaidd oeddynt, yn siarad yr iaith Hen Norseg. Daethant i deyrnasu ar diroedd dwyreiniol y bobloedd Slafonig, gan sefydlu Rws Kyiv yn 882. Cafwyd broses o ymddiwylliannu rhwng y Farangiaid, y Slafiaid, a llwythau o Faltwyr, Ffiniaid, a Bolgariaid.[1] Mae tarddiad y Rws yn elfen ganolog o ethnogenesis y Slafiaid Dwyreiniol—y Rwsiaid, y Belarwsiaid, a'r Wcreiniaid—ac felly'n bwnc llosg yn hanesyddiaeth y cenhedloedd hynny. Mae nifer o ysgolheigion yn Rwsia, a rhai hanesyddion o wledydd eraill, yn arddel "gwrth-Normaniaeth", tuedd adolygiadol sydd yn dal taw brodorion Slafonig yr ardal a wnaeth sefydlu Rws Kyiv. Yn ôl rhai, llwyth o Slafiaid oedd y Rws a sefydlodd gynghrair i atgyfnerthu eu grym, ffurf ar lywodraeth a ddatblygodd yn yr hon a elwid Rws Kyiv. Er i'r garfan wrth-Normanaidd gydnabod goresgyniadau'r Llychlynwyr yn yr ardal, haearant i Rws Kyiv ond ildio i reolaeth Farangaidd am gyfnod byr o'i hanes.

Y dybiaeth Normanaidd[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y dybiaeth "Normanaidd" o darddiad y Rws yn y 18g gan hanesyddion ac ieithegwyr Almaenig megis Gottlieb Siegfried Bayer ac August Ludwig von Schlözer. Eu prif ffynhonnell oedd Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen, y cronicl hynaf yn llên y Slafiaid Dwyreiniol, sydd yn dyddio o'r 12g ac sydd yn adrodd hanes y bobloedd hynny o ganol y 9g hyd at 1110. Yn ôl yr hanes traddodiadol hwn, gofynnwyd i lwyth Normanaidd o'r enw Rws i ymsefydlu yn Novgorod gan y boblogaeth leol, er mwyn rhoi taw ar ymgecru'r brodorion. Dywed i Rurik, un o benaduriaid y Rws, gael ei dderbyn yn Dywysog Novgorod yn 862, gan osod seiliau y wladwriaeth newydd a fyddai'n cymryd ffurf Rws Kyiv ugain mlynedd yn ddiweddarach. Cefnogwyd y safbwyntiau hyn gan Sergey Solovyov, hanesydd pwysicaf Rwsia yn y 19g, a ysgrifennai, "ni all ein hanes dilynol gynnig gwell esboniad ar ddyfodiad y tywysogion Farangaidd [na'r hyn a geir yn Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen]".[2]

Ymhelaethwyd ar y ddamcaniaeth hon yn y 19g gan yr ieithegwyr Vilhelm Thomsen o Ddenmarc ac Ernst Kunik, Almaenwr a ymfudodd i Rwsia. Tynnwyd ar ffynonellau Arabaidd yr Oesoedd Canol, er enghraifft disgrifiad y fforiwr Ahmmad ibn Rustah o darddle'r Rws fel ynys goediog a chorslyd, gan awgrymu tirwedd yr arfordir Baltig yng ngogledd-orllewin Rwsia. Cadarnhawyd y dybiaeth hon yn ddiweddarach o ganlyniad i gloddio archaeolegol tomenni claddu ar lannau Llyn Ilme, ger hen ddinas Novgorod, a Llyn Ladoga, ffynhonnell Afon Neva, sydd yn profi presenoldeb y Llychlynwyr yn yr ardal yn y 9g a'r 10g.

Y dybiaeth wrth-Normanaidd[golygu | golygu cod]

Er gwaethaf pwysigrwydd llenyddol Hanes y Blynyddoed o'r Blaen, mae nifer o ysgolheigion Rwsiaidd yn gwrthod dibynadwyedd hanesyddol y cronicl. Maent yn haeru i'r Rws gymryd eu henw o Afon Ros, un o lednentydd Afon Dnieper yng Ngorllewin Wcráin, ac yn tybio felly taw llwyth Slafig o'r ardal honno oedd y Rws yn wreiddiol. Tybiasant hefyd i'r Rws ddatblygu gwladwriaeth ffiwdal cyn dyfodiad y Farangiaid i'r ardal.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christopher J. Ward a John M. Thompson, Russia: A Historical Introduction from Kievan Rus' to the Present (Efrog Newydd: Routledge, 2021), t. 6.
  2. Sergei M. Soloviev, History of Russia, Volume 1: The Origins of Kievan Rus from Earliest Times to 1054 (Gulf Breeze, Florida: Academic International Press, 2014), t. 74