Rugby Europe
Enghraifft o'r canlynol | corff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, corff llywodraethol rygbi'r undeb ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2 Ionawr 1934 ![]() |
Sylfaenydd | Italian Rugby Federation, French Rugby Federation, Swedish Rugby Union, German Rugby Federation, Romanian Rugby Federation, Portuguese Rugby Federation, Rugby Nederland, Spanish Rugby Federation, Belgian Rugby Federation, Catalan rugby union federation ![]() |
Aelod o'r canlynol | World Rugby ![]() |
Ffurf gyfreithiol | association déclarée ![]() |
Pencadlys | Paris ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://www.rugbyeurope.eu/ ![]() |
![]() |

Rugby Europe ("Rygbi Ewrop"), a elwid gynt yn Gymdeithas Rygbi Ewrop (FIRA - AER), yw'r corff sy'n cyd-lynnu rygbi'r undeb yn Ewrop, 47 o gymdeithasau cenedlaethol yn aelodau ohoni. Mae "Rugby Europe" (arddelir y term Saesneg yn unig), yn ei dro, yn gysylltiedig â World Rugby, olynydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB), corff llywodraethu rygbi ledled y byd fel un o'r 6 chymdeithas ranbarthol, cyfandirol.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]

Mae sefydlu Rugby Europe yn adlewyrchu gwleidyddiaeth rygbi fel gêm rynglwadol, ei thŵf a'r dadleuon dros dalu chwaraewyr i chwarae'r gamp.
FIRA (1934-1999)[golygu | golygu cod]
Ym 1931, gwaharddwyd Ffederasiwn Rygbi Ffrainc (FFR) rhag chwarae'r Pum Gwlad oherwydd bod awdurdodau chwaraeon wedi amau ers amser bod y (FFR) yn caniatáu proffesiynoldeb. O ganlyniad, sefydlodd Ffrainc, ynghyd â'r Eidal, Sbaen, Catalwnia, Gwlad Belg, Portiwgal, Romania, yr Iseldiroedd a'r Almaen, Gymdeithas Rygbi Rhyngwladol Amatur (Fédération internationale de rugby amateur, FIRA) ym 1934,[2] a ddyluniwyd i drefnu'r gystadleuaeth rygbi y tu allan i awdurdod y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (fel y'i gelwid ar y pryd).[3][4][5]
FIRA - A.E.R. (1999-2014)[golygu | golygu cod]
Yn yr 1990au cydnabuwyd yr IRB fel corff llywodraethu rygbi yn y byd ac ar ôl trafodaethau, cytunodd FIRA i ymuno â'r sefydliad. Yn 1999 newidiwyd yr enw i "FIRA - Cymdeithas Rygbi Ewrop" (FIRA-AER) i hyrwyddo a llywodraethu'r undeb rygbi yn y gofod Ewropeaidd a rhedeg Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
Rugby Europe (2014-presennol)[golygu | golygu cod]
Ym mis Mehefin 2014, yn ystod confensiwn blynyddol FIRA-AER yn Split, Croatia, penderfynwyd newid enw'r sefydliad i Rugby Europe i roi enw byr, mwy adnabyddadwy iddo [6] gan arddel yr enw Seasneg yn unig.
Nid yw pob aelod yn aelod o World Rugby. Diweddarwyd 2019.[7]
Ceir 40 aelod World Rugby
Andorra (1991)
Awstria (1992)
Aserbaijan (2004)
Gwlad Belg (1988)
Bosnia-Hertsegofina (1996)
Bwlgaria (1992)
Croatia (1992)
Cyprus (2014)
Y Weriniaeth Tsiec (1988)
Denmarc (1988)
Lloegr (1890)
Y Ffindir (2001)
Ffrainc (1978)
Georgia (1992)
Yr Almaen (1988)
Hwngari (1991)
Iwerddon (1886)
Israel (1988)
yr Eidal (1987)
Latfia (1991)
Lithwania (1992)
Lwcsembwrg (1991)
Malta (2000)
Moldofa (1994)
Monaco (1996)
Yr Iseldiroedd (1988)
Norwy (1993)
Gwlad Pwyl (1988)
Portiwgal (1988)
Rwmania (1987)
Rwsia (1990)
yr Alban (1886)
Serbia (1988)
Slofacia (2016)
Slofenia (1996)
Sbaen (1988)
Sweden (1988)
Y Swistir (1988)
Wcrain (1992)
Cymru (1886)
Ceir saith aelod o Rugby Europe nad sy'n aelodau o World Rugby:
Ceir chwe gwlad Ewropeaidd sydd ddim ar hyn o'r bryd yn gysylltiedig ag unau Rugby Europe na World Rugby:
Albania
Armenia
Gwlad Groeg
Kosovo
North Macedonia
Cystadlaethau[golygu | golygu cod]
Rygbi'r Undeb 15 pob ochr[golygu | golygu cod]
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
Pencampwriaethau Rhyngwladol Rugby Europe 1A Pencampwriaeth (Championship) | RE Championship 2019 | ![]() |
Rugby Europe 1B Tlws (Trophy) | RE Trophy 2018-19 | ![]() |
Rugby Europe International Championships 2A Cynhadledd (Conference) | RE Conference 2017-18 | ![]() |
RE International Championships Datblygu (Development) | RE Development 2017-18 | ![]() |
RE dan-20 Championship | RE dan-20 Championship 2019 | ![]() |
Rugby Europe dan-18 Championship | Rugby Europe dan-18 Championship 2018 | ![]() |
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
European Championship Menywod | European Championship Menywod 2019 | ![]() |
Rugby 7[golygu | golygu cod]
Cynheir hefyd cystadlaethau rygbi saith bob ochr.
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
"Sevens Grand Prix Series" | 2018" | ![]() |
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
Sevens Grand Prix Series Menywod | 2018 | ![]() |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ [1] Archifwyd 2015-08-17 yn y Peiriant Wayback. WR - Regional Associations (en inglés)
- ↑ https://rugbipensador.files.wordpress.com/2008/04/acta_constitucio_fira.pdf
- ↑ [2] WR - FIRA Formed
- ↑ "About us" (yn Saesneg). 3 de octubre de 2016. Cyrchwyd 16 de mayo de 2018. Unknown parameter
|periódico=
ignored (help); Check date values in:|access-date=, |date=
(help) - ↑ "About us" (yn Saesneg). Unknown parameter
|obra=
ignored (|work=
suggested) (help) - ↑ FIRA-AER Becomes RUGBY EUROPE Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback. Nodyn:Wayback FIRA-AER website, published: 20 June 2014, accessed: 25 June 2014
- ↑ "Unions Members". Rugby Europe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-28. Cyrchwyd 24 January 2019.