Rudolf Maister

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rudolf Maister
Rudolf Maister in 1919
Llysenw Vojanov
Ganwyd (1874-03-29)Mawrth 29, 1874
Kamnik, Dugaeth Carniola, Ymerodraeth Awstria-Hwngari (heddiw Slofenia)
Bu farw Gorffennaf 26, 1934(1934-07-26) (60 oed)
Rakek, Teyrnas Iwgoslafia (heddiw Slovenia)
Cynghreiriaid Austria-Hungary
Gwladwrieth Slofeniaid, Croatiaod a Serbiaid
Teyrnas Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid
Bl'ddyn gwasanaeth 1890–1923
Ranc Cadfridog Cyffredinnol (Major-General)
Swydd Byddin Slofenia (1918-1919)
Cadlywydd Maribor
Gwobrau Signum laudis
Urdd yr Eryr Gwyn (Serbia)
Urdd Seren Karađorđe]]
Urdd Sant Sava
Gwaith arall Bardd ac arlunydd hunan-addysgiedig

Roedd Rudolf Maister hefyd Rudolf Majster, a llysenw Vojanov; (29 Mawrth 1874 - 26 Gorffennaf 1934) yn swyddog milwrol, bardd ac actifydd gwleidyddol o Slofenia. Daeth y milwyr a ymladdodd o dan orchymyn Maister yng ngogledd Slofenia i gael eu galw'n Slofeneg yn Maistrovi borci ("ymladdwyr Maister"). Ef oedd benaf gyfrifol bod dinas Maribor yn rhan o'r Iwgoslafia newydd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a Slofenia annibynnol bellach.[1]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Maister yn nhref fasnachol Kamnik, Carniola Uchaf, a oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth Awstria-Hwngari, Slofenia bellach. Roedd ei gartref yn ardal Šutna o'r dref sydd nawr yn amgueddfa.[2] Yn filwr gyrfa, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd ym myddin Awstria-Hwngari.

Magwyd ef i deulu Almaeneg ei hiaith gyda'i dad yn swyddog ariannol yn Pettau (Ptuj bellach). Fel oedolyn ifanc, trodd at genedlaetholdeb Slofeneg ac ysgrifennodd ei enw'n yn yr orgraff Slofeneg, sef, Majster.[3][4]

Rhyfel Byd Cyntaf a Chipio Maribor[golygu | golygu cod y dudalen]

Datganiad Mobileiddio Maister, 9 Tachwedd 1918 yn erbyn Awstria Almaenig
Y Maistrovi borci yn nhalaith Carinthia, 1919

Ar Ragfyr 7, 1914, trosglwyddwyd Maister i Maribor, lle ddaeth yn gomidant ar Landsturmregiment y dref a dyna lle bu ac eithrio cyfnod bach ym 1917 (lle bu yn Graz), y byddai'n aros trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, hynny yw, tan ddiwedd Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Fe'i penodwyd yn bennaeth y fyddin a oedd yno.

Ar 30 Hydref 1918, wrth i'r Rhyfel Mawr dod i ben, datganodd y gymuned Almaeneg ei hiaith ym Maribor, a oedd yn dominyddu cyngor y ddinas, eu bod am ymuno â Gweriniaeth newydd Awstria-Almaenig. Roedd Maribor, ar y pryd yn cael ei hadnabod yn swyddogol fel Marburg an der Drau ac yn dref Almaeneg ei hiaith gyda cefngwlad Slofeneg.[5] Y diwrnod canlynol, datganodd Maister i gyngor y ddinas nad oedd yn cytuno â'r penderfyniad hwn a datganodd fod Maribor yn rhan o diriogaeth Gwladwriaeth newydd y Slofeniaid, Croatiaid a Serbiaid. Am hyn dyrchafwyd ef gan Gyngor Cenedlaethol Slofenia yn Laibach (Lujbljana bellach) o Lywodraeth newydd Teyrnas Slofeniaid, Croatiaia a Serbiaid (SHS) i fod yn Gadfridog. Yna nododd wrth y milwyr Slofeneg a ymgynnullodd ei fod yn cymryd yr awenau dros ddinas Maribor a'r ardal gyfagos. Yr un diwrnod daeth yr holl farics ym Maribor a'r cyffiniau o dan ei orchymyn.

Sefydlodd yr Almaenwyr ethnig ym Maribor y "Gwarchodlu Gwyrdd" mewn ymateb. Ar ddechrau mis Tachwedd, galwodd Maister am gyrch Slofeniaidd, yn erbyn ewyllys yr Almaenwyr, ond hefyd yn erbyn ewyllys y llywodraeth newydd Iwgoslafaidd ei naws yn Ljubljana. Serch hynny, ymatebodd llawer o ddynion o gefn gwlad Slofenia o amgylch Maribor i alwad Maister i lwyddo i greu byddin o tua 4,000 o ddynion a 200 o swyddogion.

Ar 23 Tachwedd 1918, cipiodd Maister a'i fyddin Maribor, ac wedi hynny fe wnaethant ddiarfogi'r Schutzwehr, Gwarchodlu Gwyrdd (cydnawyd y diwrnod fel gwyliau'r wladwriaeth yn Slofenia er 2005). Symudodd Maister a'i fyddin ymlaen a chipio rhan sylweddol o hen Ddugiaeth Styria, Styria Isaf, sef Styria Slofenia bellach, gan feddiannu Bleiburg (Pliberk yn Slofeneg), Völkermarkt (Velikovec) a Lavamünd (Labot). Llofnodwyd cytundeb ar 27 Tachwedd 1918, ond ni chafodd ei gydnabod gan y naill lywodraeth na'r llall. Sicrhawyd y ddinas Almaeneg ei hiaith ar gyfer Gwladwriaeth Slofeniaid, Croatiaid a Serbiaid sydd newydd ei ffurfio, ac unodd â Theyrnas Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid ar 1 Rhagfyr.

Sul Waedlyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Angladd Rudolf Maister yn croesi pont Maribor
Bedd Maister, Mynwent Pobreška, Maribor

I ddatrys y broblem o ffiniau newydd yr ardal yn sgil cwymp Ymerodraeth Awstria-Hwngari, sefydlwyd dirprwyaeth heddwch dan arweiniad Lieutenant Colonel Sherman Miles o'r UDA a ymwelodd â Maribor ar 27 Ionawr 1919. Daeth 10,000 o Almaenwyr i sgwâr y ddinas i'w groesawu a gwneud yr achos i'r dref a'i chyffiniau ymuno ag Awstria. Dydy'r hyn a ddigwyddod nesa ddim yn glir, ond bu ffrwgwd a saethu gan ladd rhwng 9 ac 13 person ac anafwyd 60, i gyd yn Almaenwyr ethnig, galwyd y gyflafan yn Marburger Blutsonntag yn Almaeneg,[6] a Mariborska krvava nedelja yn Slofeneg.

Roedd ffynonellau Awstria yn cyhuddo milwyr Maister o saethu heb achos, tra bod tystion o Slofenia, fel Maks Pohar, yn tystio bod yr Awstriaid (rhai yn dal i fod yng ngwisgoedd y sefydliad parafilwrol pro-Awstria o’r enw’r "Gwarchodlu Gwyrdd") wedi ymosod ar y milwyr Slofenaidd oedd yn gwarchod neuadd y ddinas. Honnir i Almaenwyr Awstria ymosod ar arolygydd yr heddlu, Ivan Senekovič, ac yna pwyso tuag at y milwyr o Slofenia o flaen neuadd y ddinas. Mae fersiwn Slofenia o’r digwyddiad hwn yn cynnwys Awstria yn tanio llawddryll i gyfeiriad y milwyr o Slofenia, a ymatebodd yn ddigymell trwy danio i’r dorf sifil. Daeth y digwyddiad yn adnabyddus yn Almaeneg fel y Marburger Blutsonntag yn Almaeneg a Mariborska krvava nedelja yn Slofeneg (ill dau yn golygu "Sul Waedlyd Marburg").

Felly nid oedd y ddirprwyaeth heddwch yn gallu cynnig ateb. Daeth ymosodiad gan Weriniaeth yr Almaen-Awstria ar 4 Chwefror 1919, lle bu’n rhaid i Maister dynnu’n ôl yn rhannol o Styria ond dal i lwyddo i warchod Maribor a’r ardal o’i chwmpas. Llofnodwyd cytundeb o'r diwedd ar 13 Chwefror 1919, a dderbyniwyd gan y ddwy lywodraeth a'i gadarnhau gan Gytundeb Saint-Germain.

Ym mis Tachwedd 1919, ymunodd lluoedd Maister â thramgwydd byddin SHS yng Ngharinthia. Ymunodd Maister â nhw yn ddiweddarach a chymryd rhan o gipio Klagenfurt. Ar ôl y Refferendwm Carinthian, lle penderfynodd mwyafrif y boblogaeth Slofenaidd leol aros yn rhan o Awstria, tynnodd Maister yn ôl i fywyd preifat. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ddiweddarach mewn ystâd ger Planina yn Carniola Fewnol.

Cipio a Cholli Klagenfurt[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 28 Mai 28 1919 gorymdeithiodd Rudolf Maister eto, y tro hwn ynghyd ag unedau Serbaidd, yng Ngharinthia a meddiannu tref bwysig Klagenfurt (Celovec yn Slofeneg) ar 6 Mehefin - tref arall oedd yn Almaeneg ei hiaith gan fwyaf ond â chefng gwlad Slofeneg gref. Yn anffodus i Maister, bu’n rhaid iddo ei adael ond ar gais Cyngor Goruchaf y Cynghreiriaid ym Mharis ar 18 Medi 1919. Yn ôl Cytundeb Saint-Germain 10 Medi 1919, ar gyfer De Carinthia, er mawr chwerwder y Cadfridog Maister, dyfarnwyd y bydd refferendwm ar ddyfodol y dref a'r ardal. Ar y dechrau roedd milwyr SHS yn meddiannu De Carinthia ("Parth A"). Roedd y refferendwm ar 10 Hydref 1920 o blaid Awstria. Ar ôl hynny, cymerodd brotestiadau diplomyddol rhyngwladol i dynnu holl filwyr SHS o Awstria yn ôl i'w ffiniau newydd eu sefydlu (ac sy'n dal yn ddilys) erbyn Tachwedd 22, 1920.

Y Ffin â'r Eidal[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1921 a 1923 roedd y Cadfridog Maister yn gadeirydd y Comisiwn Iwgoslafia ar gyfer rheoleiddio'r ffin â'r Eidal. O'i chymharu ag Awstria, 'doedd ywladwriaeth SHS newydd ddim mewn sefyllfa fanteisiol y tro yma gan bod Yr Eidal wedi ymladd gyda'r Cynghreiriaid hefyd yn erbyn Awstria-Hwngari. Roedd yr Eidal hefyd wedi ymladd yn ffyrnig yn erbyn lluoedd Awstria-Hwngari oedd yn cynnwys milwyr Slofenaidd a Chroateg ym mrwydraur Isonzo. O ganlyniad gwobrwywyd yr Eidal gan y Cynghreiriaid gan gynnig neu adael i'r Eidal gadw, y cyfan o benrhyn Istria (y mae eu rhan fwyaf gogleddol heddiw yn perthyn i Slofenia wedi setlad yr Ail Ryfel Byd, ond hefyd y Karst a Dyffryn Isonzo Slofenaidd. Roedd hyn oll yn cynnwys stribed boblog o Slofeniaid o dan lywodraeth yr Eidal, ac wedi 1922 Eidal Ffasgaidd Mussolini. O ganlyniad, nid oedd bron dim i'w ennill yn y trafodaethau gyda'r Eidal.

Yn 1923 ymddeolodd Maister yn erbyn ei ewyllys fel Brigadydd Cyffredinol a chyda "Urdd yr Eryr Wen gyda Chleddyf III, Lefel ardderchog".

Ymddeol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd Maister farddoniaeth hefyd, a gyhoeddodd mewn dwy gyfrol a gasglwyd, ym 1904 ac ym 1929. Mae'r rhan fwyaf o'i farddoniaeth yn dilyn estheteg Ôl-Rhamantaidd, ac mae barddoniaeth delynegol a gwladgarol Slofenaidd Simon Jenko, Simon Gregorčič ac Anton Aškerc yn dylanwadu arni. .

Cofiannau i Maister[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rhan hollol ganolog Maister wrth lunio ffiniau newydd Iwsolafia ac o ganlyniad Slofenia yn bwysig iawn i'r Slofeniaid. Ceir sawl cofeb iddo yn y wlad.[7] Ceir dros 20 gymdeithas yn ei goffau ar draws Slofenia.[8]

  • Cerflun o Maister fel marchog, sgwâr o flaen prif orsaf drennau a bysiau brifddinas, Ljubljana. Codwyd yn 1999.[9]
  • Cerflun ar Trg generala Maister, ym Maribor [10]
  • Tŵr pren 25m o uchder a godwyd yn 1963 ac yna a adnewyddwyd a newidiwyd am dŵr metal 17m yn 1981, y Maistrov razgledni stolp yn Zavrh ger Maribor[11][12] [13]
  • Ystafell Goffa yn Voličina lle arferau Masiter dreilio ei wyliau. [14]
  • Enwir sawl sgwâr yn y wlad ar ôl Rudolf Maister gan gynnwys Trg generala Maistra ym Maribor
  • Canolfan ysgol yn dwyn ei enw yn ei dref enedigol Kamnik, Canolfan Šolski Rudolfa Maistra[15]
  • Parc goffa yn Ljubno ob Savinji[16]

Dena Rudolf Maister[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2005 sefydlwyd 23 Tachwedd fel Dena Rudolfa Maistera ("Diwrnod Rudolf Maister" - defnyddir y cyflwr genidol yn y Slofeneg) i gofnodi cipio a chadw Maribor a rhan sylweddol o ogledd dwyrain Slofenia, i'r wlad. Mae'n un o 'wyliau'r wladwriaeth' yn Slofenia, sy'n golygu ei bod yn ddiwrnod gwaith gyffredin i'r boblogaeth ond ceir protocol a digwyddiadau swyddogol gan adrannau o'r Llywodraeth.[17] Ceir seremoni swyddogol gan uchel swyddogion llywodraeth a lluoedd arfog Gwerinaieth Slofenia i gofnodi'r diwrnod.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]