Carniola
Gwedd
| Math | mers |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Kranj |
| Nawddsant | Agathius |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Awstria-Hwngari |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 400 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 46°N 14.5°E |
![]() | |
Talaith yn Slofenia yw Carniola (Slofeneg Kranjska, Almaeneg Krain). Dan reolaeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari, tir y goron, Dugaeth Carniola (Herzogtum Krain), ydoedd. Rhennir y dalaith yn dair rhan: Carniola Uchaf, Carniola Isaf a Carniola Fewnol. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd Krainburg (heddiw Kranj), ond symudwyd y brifddinas wedyn i Laibach (heddiw Ljubljana). Diddymwyd y ddugaeth yn 1918, pryd ymgorfforwyd o fewn Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (wedyn Teyrnas Iwgoslafia). Heddiw mae'r dalaith o fewn Gweriniaeth Slofenia, lle mae'n llunio rhan fwya'r wlad.

