Styria Slofenia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Styria (Slofenia)
Spodnja Štajerska / Untersteiermark
Rhanbarth Draddodiadol
Tirlun nodweddiadol yn Styria Isaf, Sevnica.
Tirlun nodweddiadol yn Styria Isaf, Sevnica.
Ffiniau Styria gynt, ynghyd â ffiniau gyfoes Awstria a Slofenia
Ffiniau Styria gynt, ynghyd â ffiniau gyfoes Awstria a Slofenia
Country Slofenia Slofenia
Uchder 300 m (1,000 tr)
Rhanbarthau traddodiadol Slofenia
Borders of the Historical Habsburgian Lands in the Republic of Slovenia.png
1 Primorska (Arfordir); Carniola: 2a Carnola Uchaf
2b Carniola Fewnol, 2c Carniola Isaf
3 Carinthia; 4 Styria; 5 Prekmurje
Map rhanbarthau ystadegol newydd Slofenia

Mae Styria Slofenia (Slofeneg: Styria - Štajerska; Styria Slofenia (Slovenska Štajerska); Styria Isaf Spodnja Štajerska; Almaeneg: Untersteiermark), yn rhanbarth traddodiadol yng ngogledd-ddwyrain Slofenia, sy'n cynnwys traean deheuol hen Ddugiaeth Styria. Mae poblogaeth Styria yn ei ffiniau hanesyddol yn cyfateb i oddeutu 705,000 o drigolion, neu 34.5% o boblogaeth Slofenia. Y ddinas fwyaf yw Maribor.

Mae'r ddwy ran o dair gogleddol arall o'r hen ddugiaeth yn perthyn i Awstria ar hyn o bryd ac fe'u gelwir yn Styria Uchaf neu Obersteiermark. Rhannwyd Dugiaeth Styria ym 1918 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael Teyrnas Iwgoslafia â Styria Isaf. Enillodd Slofenia annibyniaeth o Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Iwgoslafia ym 1991.

Nid oes gan Styria Isaf statws swyddogol fel uned weinyddol Slofenia, er bod cysylltiad â'r dalaith anffurfiol (yn Slofenia: Pokrajina) yn gyffredin iawn. Mae'r rhanbarth yn enwog am ei win gwyn.

Prifddinas Styria Isaf yw Maribor (yn Almaeneg: Marburg an der Drau). Dinasoedd pwysig eraill yw Celje (Cilli) a Ptuj (Pettau), a Slovenska Bistrica (Windisch Feistritz).

Noder, ceir hefyd Styria dros y ffin yn Awstria.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r hen dalaith yn gorwedd rhwng afonnydd y Mur isaf a'r Sava Uchaf. Mae ganddo arwynebedd o 6,050 km².

Yn 2005 aildrefnwyd gweinyddiaeth fewnol Slofenia fewn i 12 rhanbarth ystadegol. Mae'r rhanfwyaf o Styria hanesyddol bellach wedi ei rannu rhwng rhanbarthau Podravje (Podravska regija), a Savinjsko (Savinjska regija).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr Oesoedd Canol roedd tiroedd Styria Isaf yn cael eu rheoli gan sawl lywodraethwr ymerodraethol oedd yn deyrnasoedd reichsfrei fel Iarlloedd Celje. Ni lyncwyd y tiroedd mawrion yma i deulu'r Habsburgiaid hyd nes yr 15g.

Yn ôl cyfrifiad olaf Ymerodraeth Awstria-Hwngari a gynhaliwyd yn 1910, roedd gan Styria Isaf tua 498,000 o drigolion, ac o'r rheini roedd oddeutu 82% yn Slofeniaid a tua 18% yn siaradwyr â'r Almaeneg yn briodiaith.[1]

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1918, wedi chwalu Ymerodraeth Awstria-Hungari yn dilyn y Rhyfel Mawr, rhanwyd y Dugaeth rhwng y wladwriaeth Awstria Almaeneg newydd (Awstria gyfoes) a'r wladwriaeth Slofeniaid, Croatiaid a Serbiaid (SHS) a ddaeth, maes o law, yn Iwgoslafia. Yn gynnar ym mis Tachwedd 1918, meddiannodd Rudolf Maister, cadfridog Slofeneg gynt gyda byddin Awstria-Hwngari, ond bellach yn ymladdwr dros annibyniaeth Slofenia neu Slofenia o fewn Iwgoslafia, Styria Isaf, gan gynnwys tref bwysig Maribor gyda 4,000 o wirfoddolwyr lleol. Roedd Styria Isaf bellach dan reolaeth y Slofeniaid. Wedi brwydr fer gyda'r unedau parafiliwrol Awstria-Almaenaidd lleol, cynabwyd y ffin newydd gan gynulliad dros-dro Styria yn ninas Graz (sydd yn Awstria). Erbyn mis Rhagfyr 1918, roedd y cyfan o Styria Isaf o dan reolaeth de facto Teyrnas newydd Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (newidiwyd trefn y cenhedloedd Slaf a talfyrir i SHS, Hrvatska yw'r enw Croateg ar gyfer Croatia). Newidwyd yr enw eto drachefn i Iwgoslafia ("Slafiaid y De"). Gwelwyd protest yn erbyn y drefn newydd o reolaeth Slofeneg Iwgoslafaidd gan boblogaeth Almaeneg Maribor a arweiniodd ar Ddydd Sul Waedlyd pan laddwyd 13 a niweidiwyd 60 o Almaenwyr.[angen ffynhonnell]

Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Ebrill 1941, goresgynnodd yr Almaen Natsïaidd Iwgoslafia ac atodwyd Styria Slofenaidd i'r Drydedd Reich. Cyflwynwyd polisi Almaeneg treisgar. Gwaharddwyd defnydd cyhoeddus o iaith Slofeneg, a diddymwyd pob cymdeithas Slofenaidd. Cafodd aelodau o bob grŵp proffesiynol a deallusol, gan gynnwys llawer o glerigwyr, eu diarddel. Rhwng Ebrill 1941 a Mai 1942, cafodd tua 80,000 o Slofeniaid (bron i 15% o'r boblogaeth gyfan) eu diarddel o Styria Isaf, neu eu hailsefydlu i rannau eraill o'r Reich. Fel adwaith, datblygodd symudiad gwrthiant. Gwelodd llawer o ardaloedd yn Styria Isaf ymladd ffyrnig rhwng milwyr yr Almaen ac unedau pleidiol Slofenaidd.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd awdurdod Iwgoslafia dros y rhanbarth a daeth Slofenia Styria yn rhan annatod o Weriniaeth Sosialaidd Slofenia. Yn ôl penderfyniadau blaenorol a wnaed gan Gyngor Gwrth-Ffasgaidd Rhyddhad Pobl Iwgoslafia, gwnaed diarddel o'r boblogaeth ethnig Almaenig sy'n weddill, waeth beth fo'u cysylltiadau â'r drefn Natsïaidd.

Rhwng y 1950au a'r 1970au, cafodd llawer o ardaloedd y rhanbarth eu diwydiannu'n gyflym. Daeth trefi fel Maribor, Celje a Velenje ymhlith canolfannau diwydiannol pwysicaf Slofenia ac Iwgoslafia.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gregor Jenuš, Ko je Maribor postal slovenski (Maribor: znanstvenoraziskovalni inštitut dr. Franca Kovačiča, 2011), 81