Robert Lloyd Jones
Gwedd
Robert Lloyd Jones | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1878 Porthmadog |
Bu farw | 3 Chwefror 1959 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, ysgolfeistr, awdur plant, dramodydd |
Nofelydd Cymraeg oedd Robert Lloyd Jones (7 Rhagfyr 1878 – 3 Chwefror 1959), yn ysgrifennu fel R. Lloyd Jones. Roedd yn enedigol o Borthmadog, yn fab i gapten llong, a bu'n athro ac yna'n athro a phrifathro ym Mhorthmadog, Tremadog, Trefor (1913-1928) ac yna Ysgol Lloyd Street, Llandudno. Ysgrifennai straeon am y môr i blant yn bennaf.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith R. Lloyd Jones
[golygu | golygu cod]- Atgofion hen forwr (Gwasg y Bala, 1926)
- Capten : stori antur (Foyle's Welsh Depot, 1928)
- Dirgelwch y cwm : stori i blant ysgol (Hughes Brothers, 1929)
- Mêt y Mona (Gwasg Gymraeg Foyle, 1932)
- Ogof yr ysbîwyr : stori antur (Gwasg Aberystwyth, 1933)
- Plant y Fron : ystori Gymraeg i blant ysgol (Hughes a'i Fab, 1926)
- Ym Môr y De : stori antur dau lanc o Gymru (Gwasg Aberystwyth, 1936)
- Ynys y Trysor (Hughes a'i Fab, 1925)
Cyhoeddodd nifer sylweddol o ddramau poblogaidd hefyd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwynn Jones, 'Robert Lloyd Jones', yn Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983).