Neidio i'r cynnwys

Ridhima Pandey

Oddi ar Wicipedia
Ridhima Pandey
Ganwyd2008, Hydref 2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner India India
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 100 Merch y BBC Edit this on Wikidata

Mae Ridhima Pandey (ganwyd 2009) yn actifydd amgylcheddol o India sy'n eiriol dros weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Mae hi wedi cael ei chymharu â Greta Thunberg.[1] Pan oedd hi'n naw oed, fe gymerodd achos yn erbyn Llywodraeth India am beidio â chymryd digon o gamau yn erbyn newid hinsawdd.[2] Roedd hi hefyd yn un o achwynwyr yn y Cenhedloedd Unedig, ynghyd â sawl gweithredwr hinsawdd ifanc arall, yn erbyn methiant sawl gwlad i weithredu yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.[3]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mae Pandey yn byw yn Uttarakhand, talaith yng Ngogledd India. Mae ei thad, Dinesh Pandey, hefyd yn ymgyrchydd hinsawdd sydd wedi gweithio yn Uttarkhand lle bu'n ymgyrchu ers 16 mlynedd.[4]

Effeithiwyd ar gartref Pantay yn Uttarakhand gan dywydd garw dros y deng mlynedd diwethaf. Yn 2013, bu farw dros 1,000 o bobl mewn llifogydd a thirlithriadau yn ei hardal.[5] Bu'n rhaid symud bron i 100, 000 o bobl o'r rhanbarth.[6] Yn ôl Banc y Byd, mae newid hinsawdd yn debygol o gynyddu'r pwysau ar y cyflenwad dŵr yn India yn ddifrifol.[7]

Gweithredu

[golygu | golygu cod]

Achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth India

[golygu | golygu cod]

Yn naw oed, fe ffeiliodd Pandey siwt yn erbyn Llywodraeth India ar y sail nad oeddent wedi cymryd camau sylweddol yn erbyn newid hinsawdd er iddynt gytuno i wneud hynny yng Nghytundeb Paris yn 2016. Cyflwynwyd yr achos llys hwn yn y Tribiwnlys Gwyrdd Cenedlaethol (NGT), llys a sefydlwyd yn 2010 sy'n delio ag achosion amgylcheddol yn unig. Gofynnodd Pandey hefyd i'r Llywodraeth baratoi cynllun i leihau allyriadau carbon a chynllun ledled y wlad i ffrwyno effaith newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys lleihau defnydd India o danwydd ffosil.[4] Mewn cyfweliad â'r Independent, nododd Pandey:

“Mae fy Llywodraeth wedi methu â chymryd camau i reoleiddio a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy’n achosi amodau hinsawdd eithafol. Bydd hyn yn effeithio arnaf i a chenedlaethau'r dyfodol. Mae gan fy ngwlad botensial enfawr i leihau’r defnydd o danwydd ffosil, ac oherwydd diffyg gweithredu’r Llywodraeth es i at y Tribiwnlys Gwyrdd Cenedlaethol.” [4]

Gwrthododd yr NGT ei deiseb, gan nodi ei bod 'wedi'i chynnwys o dan asesiad cytundeb yr amgylchedd'.[8]

Cwyn i'r Cenhedloedd Unedig

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei chais am fisa Norwyaidd i fynd i Oslo, clywodd am sefydliad ar gyfer gweithredwyr hinsawdd ifanc. Aeth at y sefydliad, a chafodd ei dewis i fynd i Efrog Newydd ar gyfer Uwchgynhadledd Gweithredu Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019.[9] Yn ystod yr uwchgynhadledd, ar 23 Medi 2019 ffeiliodd Pandey gyda 15 o blant eraill, gan gynnwys Greta Thunberg, Ayakha Melithafa ac Alexandria Villaseñor, gwyn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, gan gyhuddo'r Ariannin, Brasil, yr Almaen, Ffrainc a Thwrci i fynd yn groes i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn trwy fethu â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn ddigonol.[10][11]

Gweithgaredd pellach

[golygu | golygu cod]

Mae Pandey wedi galw am waharddiad llwyr ar blastig, gan ddadlau bod ei gynhyrchu parhaus yn ganlyniad i alw gan ddefnyddwyr. Mae hi hefyd wedi galw ar lywodraeth India ac awdurdodau lleol i wneud mwy i lanhau Afon Ganga.[8] Dywedodd, er bod y llywodraeth yn honni ei bod yn glanhau'r afon, ni fu llawer o newid yng nghyflwr y dwr.[12]

Dyfynnir Pandey ar ei bywgraffiad ar Blant yn erbyn Newid Hinsawdd fel un sy'n nodi ei nod:

“Rydw i eisiau achub ein dyfodol. Rwyf am achub dyfodol holl blant a holl bobl cenedlaethau'r dyfodol ” [13]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Roedd Pandey ar y rhestr o 100 o Fenywod y BBC a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2020.[14]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Who Is Ridhima Pandey". Business Standard India. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  2. "Meet the nine-year-old girl who is suing the Indian Government over climate change". The Independent (yn Saesneg). 1 Ebrill 2017. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  3. "earthjustice.org". Cyrchwyd 26 Ebrill 2020.
  4. 1 2 3 "Meet the nine-year-old girl who is suing the Indian Government over climate change". The Independent (yn Saesneg). 1 Ebrill 2017. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020. "Meet the nine-year-old girl who is suing the Indian Government over climate change", The Independent, 1 Ebrill 2017. Adalwyd 23 Ebrill 2020.
  5. "India's death toll in aftermath of floods reaches 1,000". The Guardian (yn Saesneg). Associated Press. 24 Mehefin 2013. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-04-23.
  6. "Many still stranded in India floods". BBC News (yn Saesneg). 28 Mehefin 2013. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  7. "India: Climate Change Impacts". World Bank (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-16. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  8. 1 2 "Who Is Ridhima Pandey". Business Standard India. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020. "Who Is Ridhima Pandey". Business Standard India. Adalwyd 23 Ebrill 2020 .
  9. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  10. "#ChildrenVsClimateCrisis". childrenvsclimatecrisis.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-22. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  11. "earthjustice.org". Cyrchwyd 26 Ebrill 2020. "earthjustice.org". Adalwyd 26 Ebrill 2020.
  12. DelhiSeptember 27, Press Trust of India New; September 27, 2019UPDATED; Ist, 2019 18:34. "India's Greta Thunberg: All about 11-year-old climate activist Ridhima Pandey". India Today (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.CS1 maint: numeric names: authors list (link) "India's Greta Thunberg: All about 11-year-old climate activist Ridhima Pandey". India Today. Adalwyd 20 Ebrill 2021.
  13. "#ChildrenVsClimateCrisis". childrenvsclimatecrisis.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-22. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020. "#ChildrenVsClimateCrisis" Archifwyd 2021-04-22 yn y Peiriant Wayback. childrenvsclimatecrisis.org. Adalwyd 23 Ebrill 2020.
  14. "BBC 100 Women 2020: Who is on the list this year?". BBC News (yn Saesneg). 2020-11-23. Cyrchwyd 2020-11-23.