Richard Williams (Dic Dywyll)

Oddi ar Wicipedia
Richard Williams
FfugenwDic Dywyll Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1790 Edit this on Wikidata
Amlwch Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1865 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbaledwr, bardd Edit this on Wikidata

Baledwr Cymreig oedd Richard Williams, mwy adnabyddus fel Dic Dywyll (tua 1790 - tua 1865).

Ychydig o wybodaeth bendant sydd ar gael amdano. Ymddengys iddo gael ei eni yng Ngogledd Cymru; crybwyllir Amlwch, Llanerchymedd a Llŷn gan wahanol fynonellau. Ni wyddir blwyddyn ei enwi, ond credai un person a'i gwelodd tua 1862 ei fod rhwng 70 a 75 oed.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn canu a gwerthu baledi yn neheudir Cymru; cofnodir iddo fyw ym Merthyr Tydfil am rai blynyddoedd. Efallai mai'r enwocaf o'i faledi oedd Cân ar ddull y gyfraith newydd, sef y workhouse. Cadwyd 73 o'i gerddi. Bu farw yn Lerpwl, ond nid oes sicrwydd am y dyddiad.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]