Rhydycroesau

Oddi ar Wicipedia
Rhydycroesau
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlansilin, Oswestry Rural
Daearyddiaeth
SirPowys
Swydd Amwythig
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.8684°N 3.129°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ240308 Edit this on Wikidata
Cod postSY10 Edit this on Wikidata
Map

Pentref ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Rhydycroesau[1] (weithiau Rhyd-y-croesau). Saif hanner gorllewinol y pentref yng nghymuned Llansilin ym Mhowys, tra mae'r hanner dwyreiniol ym mhlwyf sifil Oswestry Rural yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Bu'n rhan o Bowys Fadog yn yr Oesoedd Canol. Mae tua 2 filltir i'r gorllewin o dref Croesoswallt ar y B4580 i Lansilin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Llawnt a Brogyntyn yn Swydd Amwythig a Lledrod a Llangadwaladr ym Mhowys.

Treuliodd yr hynafiaethydd Robert Williams ddeugain mlynedd yn ficer ar blwyfi Rhydycroesau a Llangadwaladr hyd ei ymddeoliad yn 1879.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 25 Ebrill 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato