Rheilffordd Fynydd Frycheiniog

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Fynydd Frycheiniog
Mathrheilffordd cledrau cul, rheilffordd dreftadaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8093°N 3.3673°W Edit this on Wikidata
Hyd8 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Rheilffordd cledrau cul yw Rheilffordd Fynydd Frycheiniog, sydd yn dilyn rhan o hen gwrs y Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr. Caewyd y rheilffordd wreiddiol ym 1964. Mae’r rheilffordd yn cychwyn o Bant, ger Merthyr, yn mynd trwy Bontsticill hyd at Dorpantau, yn rhedeg ar lan Cronfa Dŵr Taf Fechan. Mae gan y reilffordd weithdy ym Mhant.[1]

Gorsaf reilffordd Pant
Gweithhdy'r rheilffordd

Hanes[golygu | golygu cod]

Sylfaenydd y rheilffordd oedd Tony Hills. Prynodd o sawl locomotif, cadwyd ar Reilffordd Llyn Padarn. Prynodd o 5 milltir yr hen Reilffordd Aberhonddu a Merthyr ym 1977 a symudodd ei locomotifau yno.[2] Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1978, a roddwyd Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn ym 1980.[3] Gosodwyd y cledrau rhwng Pant a Pontsticill ym 1979–80. Adnewyddwyd tŷ’r orsaf ym Mhontsticill, daeth yr hen ystafell aros yn weithdy ac adeiladwyd sied. Agorodd y rheilfford ym Mehefin 1980 gyda’r locomotif Sybil ac un cerbyd.

Rheilffordd Fynydd Frycheiniog
exCONTg
B&MR, Aberhonddu-Merthyr
uBHF
Torpantau
uHST
Pontsticill
uBHF
Pant
exCONTf
B&MR, Aberhonddu-Merthyr

Locomotifau[golygu | golygu cod]

Rhif 1, ‘Santa Teresa’. Locomotif 2-6-0 Baldwin, adeiladwyd yn Philadelphia ym 1897 ar gyfer Rheilffordd Mogyana ym Mrasil. Prynwyd yn 2002, ac ail-adeiladwyd yng ngweithdy’rheilffordd fel 2-6-2. Wedi gweithio ar y fheilffordd ers Mehefin 2019.[4]

Rhif 2

Rhif 2; Locomotif 4-6-2 Baldwin, adeiladwyd yn Philadelphia ym 1930 ar gyfer Cwmni Sment Talaith Dwyreiniol, Port Elizabeth, De Affrica, i gario calchfaen. was built by Baldwin of Philadelphia, USA in 1930, (No. 61269) for the Eastern Province Cement Co. Port Elizabeth, South Africa where it spent all its working life hauling limestone. Ar ôl damwain ddifrifol, prynwyd gan y rheilffordd, ac ail-adeiladwyd rhwng 1993 a 1997 ym Mhant.[5]

Rhif 3; prosiect hir-dymor i ail-greu locomotif 2-6-2 Baldwin o Reilfordd Sandy River & Rangeley Lakes ym Maine, sgrapiwyd ym 1936.[6]

Rhif 4; prosiect hir-dymor arall i ail-greu locomotif Baldwin 2-4-4 o’r un rheilffordd, sgrapiwyd ym 1936.[7]

‘Graf Schwerin Lowitz’; Locomotif 0-6-2T ‘well tank’, adeiladwyd gan Arn Jung yn yr Almaen ym 1908. Daeth o Mecklenburg - Pommersche Schmalspurbahn yn nwyrain y wlad. Ailadeiladwyd ym Mhant, mae o wedi gweithio ers 1983, ond mae’n rhy fach i fynd yn bellach na Dol y Gaer.[8]

Mae 3 locomotif arall, yn amgueddfa’r rheilffordd ym Mhontsticill:- ‘Sybil’; Locomotif chwarel Hunslet. Rhif 827, defnyddiwyd yn Chwarel Pen-Yr-Orsedd, Nantlle hyd at 1959. Prynwyd ym 1963, a tynnodd y trenau cyntaf yn 1980, ond heb ei ddefnyddio ers 1981. Atgyweiriwyd yn 2012. ‘Pendyffryn’; Locomotif 0-4-0 De Wintonefo boeler fertical, adeiladwyd yng Nghaernarfon ym 18978 ar gyfer Chwarel Pen-Yr-Orsedd. Prynwyd ym 1965, ac atgyweiriwyd erbyn 2012. Prynwyd ym 1973, ac atgyweiriwyd erbyn 2012. ‘Redstone’; Locomotif 0-4-0 efo boeler fertical, adeiladwyd gan Mr Redstone, gweithwr yn [[Chwarel Ithfaen Penmaenmawr, yn gopi bach o locomotifau De Winton y chwarel, crewyd ar gyfer plant perchennog y chwarel. Defnyddiwyd yn Chwarel Trefor ger Porthmadoc yn y 1920au.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y rheilffordd
  2. Johnson, Peter (9 Tachwedd 2015). "Ysgrif goffa Tony Hills". Y Guardian.
  3. Cais am Orchymyn Rheilffordd Ysgafn, 1979
  4. Gwefan y rheilffordd
  5. Gwefan y rheilffordd
  6. Gwefan y rheilffordd
  7. Gwefan y rheilffordd
  8. Gwefan y rheilffordd
  9. Gwefan y rheilffordd

Dolen allanol[golygu | golygu cod]