Rheilffordd cledrau cul

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cledrau cul)
Neidio i: llywio, chwilio
Amrywiol Draciau
a'r pellter sydd rhyngddynt

Track gauge.svg

Cledrau Llydan
  Cledrau Breitspurbahn (yr Almaen) includeonly>3,000 mm (118.1 in)
  Cledrau Brunel includeonly>2,140 mm (84.3 in)
  India includeonly>1,676 mm (66.0 in)
  Sbaen a Phortiwgal includeonly>1,668 mm (65.7 in)
  Iwerddon includeonly>1,600 mm (63.0 in)
  Rwsia includeonly>1,520 mm (59.8 in)

  Cledrau Safonol
(Stephenson)
includeonly>1,435 mm (56.5 in)

Cledrau Canolig
  yr Alban includeonly>1,372 mm (54.0 in)
  Cledrau Cape includeonly>1,067 mm (42.0 in)
  Cledrau metr includeonly>1,000 mm (39.4 in)

Cledrau Cul
  Cledrau Tair Troedfedd includeonly>914 mm (36.0 in)
  Cledrau Bosnia includeonly>760 mm (29.9 in)

Y Cledrau Mwyaf Cul
  Cledrau Pymtheg Modfedd includeonly>381 mm (15.0 in)

Rail gauge world.png

Mae Rheilffordd cledrau cul yn rheilffordd sydd â chledrau sydd yn agosach at ei gilydd na'r rhai cyffredin, safonol sef 1,435 mm (4 tr 8 1⁄2 mod). Y mesuriadau hyn ydy'r bwlch sydd rhwng y cledrau. Mae'r rhan fwyaf o gledrau cul rhwng 2 dr (610 mm) a 3 tr 6 mod (1,067 mm).

Cymharu'r ddau fath o gledrau: cledrau safonol (glas) a chledrau cul (coch).

Trosolwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan osodir cledrau cul ar y llawr gyda thro ynddynt, mae'r radiws yn llai na'r tro y gellir ei gael ffurfio gyda chledrau safonol. Mae'r cledrau cul eu hunain hefyd yn pwyso llai, yn cynnwys llai o fetel ynddynt ac yn costio llai. Mae medru troi'n gwneud y system cledrau cul yn llawer mwy hwylus ar gyfer ardaloedd mynyddig neu anodd. Cânt eu defnyddio mewn chwaeli a mannau diwydiannol eraill am yr un rhesymau.

Ar y llaw arall, mae gan gledrau safonol y gallu i gludo mwy o lwyth, llwyth trymach ac yn gynt na chledrau cul.

Gwledydd Prydain[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o'r rheilffyrdd cyntaf yn y byd oedd Rheilffordd Penydarren, yn Ne Cymru: cledrau cul oedd y system a ddefnyddiwyd yno. Mae'r rheilffordd cludo teithwyr hiraf i'w gael yng Ngogledd Cymru, sef Rheilffordd Eryri a Ffestiniog a oedd yn un, ac a oedd yn mesur 58 km (36 milltir). Fe'i orffenwyd yn 2011 gan godi hyd y linell i 64 km (40 milltir). Pasiwyd deddf i ganiatau i Rheilffordd Talyllyn gludo teithwyr, dyma'r cyntaf i gael ei adfer a'i ail agor gan wirfoddolwyr yn 1951.[1]

Mae llawer o'r rheilffyrdd hyn wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd; oherwydd hyn nid oedd yn rhaid i led y cledrau fod yr un faint.

Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn cael ei chyfri'n reilffordd unigryw ac arbennig iawn oherwydd ei system rack-and-pinion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Rheilffordd Talyllyn Adalwyd 28 Medi 2012.