Rhanbarthau Moroco

Oddi ar Wicipedia

Creuwyd rhanbarthau Moroco yn 1997 fel rhan o broses datganoli ym Moroco. Ceir 16 ohonynt ym Moroco ac yn y rhan o diriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara a hawlir gan y wlad. Dyma unedau gweinyddol uchaf Moroco, a rennir yn eu tro yn 61 uned weinyddol. Rheolir pob rhanbarth gan Wali, a enwebir gan frenin y wlad. Mae'r Wali yn llywodraethwr y dalaith neu préfecture lle mae'n byw hefyd.

Rhanbarthau gyda'u prifddinasoedd[golygu | golygu cod]

Rhanbarthau Moroco

Rhoddir isod enw'r rhanbarth yn gyntaf, gyda rhif sy'n dynodi ei leoliad ar y map ar y dde, ac wedyn enw'r 'brifddinas', sef canolfan weinyddol y rhanbarth.

Tiriogaeth Gorllewin Sahara[golygu | golygu cod]

Mae tri rhanbarth - Guelmim-Es Semara (6), Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra (7), ac Oued Ed-Dahab-Lagouira (11) yn gorwedd yn nhiriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara ac yn cael ei hawlio gan y Polisario. Fe'i dynodir mewn italigs uchod.

Rhanbarthau Moroco Baner Moroco
Chaouia-Ouardigha | Doukhala-Abda | Fès-Boulemane | Gharb-Chrarda-Beni Hssen | Grand Casablanca | Guelmim-Es Semara | L'Oriental | Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra | Marrakech-Tensift-El Haouz | Meknès-Tafilalet | Oued Ed-Dahab-Lagouira | Rabat-Salé-Zemmour-Zaer | Souss-Massa-Draâ | Tadla-Azilal | Tanger-Tétouan | Taza-Al Hoceima-Taounate