Grand Casablanca
Gwedd
| Math | former region of Morocco |
|---|---|
| Prifddinas | Casablanca |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Moroco |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,157 km² |
| Cyfesurynnau | 33.53°N 7.58°W |
| MA-08 | |
![]() | |

Un o ranbarthau Moroco yw Grand Casablanca (Arabeg:جهة الدار البيضاء الكبرى), sef 'Casablanca Fawr'. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin Moroco. Dyma'r rhanbarth gyda'r boblogaeth dwysaf yn y y wlad, gyda 3,850,000 o bobl yn byw mewn 1,615 cilmetr sgwâr. Mae'r rhanbarth yn allweddol yn economi Moroco gyda dinas Casablanca yn brifddinas economaidd y wlad.
Mae'r rhanbarth yn ffinio gyda rhanbarthau Rabat-Salé-Zemmour-Zaer i'r gogledd, Doukkala-Abda i'r de, a Chaouia-Ouardigha i'r dwyrain. I'r gorllewin ceir Cefnfor Iwerydd .
Wali (prif lywodraethwr) presennol Grand Casablanca yw Mohammed Kabbaj.
Préfectures a thaleithiau
[golygu | golygu cod]- Préfecture Ain Chock Hay Hassani
- Préfecture Ain Sebaa-Hay Mohammedi
- Préfecture Ben Msik-Sidi Othmane
- Préfecture Casablanca-Anfa
- Préfecture El Fida-Derb Soltane
- Préfecture Mechouar Casablanca
- Préfecture Sidi Bernoussi-Zenata
- Préfecture Mohammedia
- Talaith Médiouna
- Talaith Nouaceur
Dinasoedd a threfi
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Casablanca Archifwyd 2011-05-12 yn y Peiriant Wayback
