Mohammédia
Gwedd
| Math | cymuned drefol Moroco, dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Mohammed V, brenin Moroco |
| Poblogaeth | 194,358 |
| Gefeilldref/i | Gent |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Mohammedia Prefecture |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 17 metr |
| Cyfesurynnau | 33.68°N 7.38°W |
![]() | |
Dinas a phorthladd ym Moroco yw Mohammédia (hen enw: Fedhala) (Arabeg: المحمدية), a leolir 15 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Casablanca ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngorllewin y wlad. Mae'n rhan o ranbarth Grand Casablanca. Poblogaeth: 188,619 (2004).
Enw gwreiddiol y ddinas oedd Fedala, ond cafodd ei hailenwi y 1959 er anrhydedd y Brenin Mohammed V o Foroco. O'r 14eg hyd at y 19g, bu'n man cyfarfod masnachwyr Ewropoeaidd a Morocaidd. Pan gipwyd Moroco gan Ffrainc dechreuwyd adeiladau porthladd modern yno, yn 1913. Erbyn heddiw, mae'r ddinas yn borthladd, yn ganolfan diwydiant cynhyrchu ac yn gyrchfan gwyliau glan môr.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Hanes Mohammédia
