Mohammed V, brenin Moroco
Mohammed V, brenin Moroco | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Awst 1909 ![]() Fès ![]() |
Bu farw | 26 Chwefror 1961 ![]() Rabat ![]() |
Dinasyddiaeth | Moroco ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | sultan of Morocco, sultan of Morocco, King of Morocco ![]() |
Tad | Yusef of Morocco ![]() |
Priod | Lalla Abla bint Tahar, Lalla Bahia ![]() |
Plant | Hassan II, Lalla Fatima Zohra, Princess Lalla Aicha of Morocco, Prince Moulay Abdallah of Morocco, Lalla Amina of Morocco, Princess Lalla Malika of Morocco, Princess Lalla Nuzha of Morocco ![]() |
Perthnasau | Mohammed VI, Ahmed Osman, Prince Moulay Hicham of Morocco, Prince Moulay Ismail of Morocco, Lalla Latifa, Moulay Ali Alaoui, Princess Lalla Joumala Alaoui, Moulay Abdallah ben Ali Alaoui, Moulay Youssef Alaoui, Moulay Rachid ben al Hassan, Hasna of Morocco, Asma of Morocco, Princess Lalla Meryem of Morocco ![]() |
Llinach | Alaouite ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Cymrawd y 'Liberation', Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Urdd Teilyngdod, Q95919064, Order of al-Hussein bin Ali, Urdd Umayyad, Urdd Abdulaziz al Saud, Grand Cordon of the order of Nichan Iftikhar, Coler Urdd Siarl III, Q101091907 ![]() |

Rheolwr Moroco oedd Mohammed V (10 Awst 1909 – 26 Chwefror 1961) (Arabeg: محمد الخامس), a deyrnasodd fel Swltan Moroco o 1927 hyd 1953, a gafodd ei alltudio yn 1953 ac a deyrnasodd eto yn gyntaf fel Swltan (1955-1957) ac wedyn fel brenin (1957-1961). Ei enw llawn oedd Sidi Mohammed ben Yusef, sef mab (ben) y Swltan Yusef, a olynodd fel Swltan ar ôl ei farwolaeth yn 1927. Roedd yn aelod o Freninllin yr Alaouitiaid.
Ar 20 Awst, 1953, gorfododd yr awdurdodau gwladfaol Ffengig y Swltan Mohammed V a'i deulu i adael Moroco am alltudiaeth ar ynys Corsica. Rhoddwyd perthynas iddo, Mohammed Ben Aarafa, ar yr orsedd yn ei le. Y rheswm am hynny oedd fod y Morocwyr yn gweld Mohammed V fel arweinydd yn y frwydr dros annibyniaeth i'r wlad.
Trosglwyddwyd Mohammed V a'i deulu i ynys Madagasgar, un arall o wladfeydd Ffrainc ar y pryd, yn Ionawr 1954. Dychwelodd Mohammed V o alltudiaeth ar 16 Tachwedd, 1955, a chafodd ei gydnabod fel Swltan unwaith yn rhagor, er ei fod yn wrthynebus i reolaeth Ffrainc. Yn Chwefror 1956 llwydodd i gael annibyniaeth i Foroco mewn trafodaethau gyda llywodraeth Ffrainc ac yn 1957 cymerodd y teitl Brenin Moroco.
Bu farw ar 26 Chwefror 1961, ar ôl derbyn llawfeddygaeth, ac fe'i olynwyd gan ei fab Hassan II.
Enwir dinas Mohammédia, ger Casablanca, ar ei ôl, er anrhydedd iddo.