Mohammed VI, brenin Moroco

Oddi ar Wicipedia
Mohammed VI, brenin Moroco
Ganwyd21 Awst 1963 Edit this on Wikidata
Rabat Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMoroco Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbrenin, teyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Moroco Edit this on Wikidata
TadHassan II, brenin Moroco Edit this on Wikidata
MamLalla Latifa Edit this on Wikidata
PriodPrincess Lalla Salma of Morocco Edit this on Wikidata
PlantLalla Khadija of Morocco, Moulay Hassan, Crown Prince of Morocco Edit this on Wikidata
PerthnasauMohammed V, brenin Moroco Edit this on Wikidata
Llinach'Alawi dynasty Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Coler Urdd Isabella y Catholig, Urdd y Tair Seren, Ail Dosbarth, Uwch Groes Urdd Wissam El Alaouite, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Uwch Cordon Urdd Leopold, Urdd cenedlaethol Coler Uwch Cruz del Sur, Urdd Bernardo O'Higgins, Coler Urdd Siarl III, Silver Star, Urdd Seren y Cyhydedd, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Uwch Groes Urdd Eryr yr Aztec, Knight of the Garter, Order of the Nile, Uwch Goleg Urdd Sant'Iago de l'Épée, Grand Cross of the Order of La Pléiade, doctor honoris causa, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Ellis Island Medal of Honor, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Grand Cross of the Military Order of Avis, Urdd yr Orsedd, Grand Cross of the National Order of Mali, Order of al-Hussein bin Ali, Nishan-e-Pakistan, Urdd Teilyngdod Dinesig, Order of the Republic of The Gambia, Order of the Republic, Order of Independence, Urdd Teilyngdod, Urdd Umayyad, Order of Mubarak the Great, Order of Valour, Order of the Niger, The National Order of Burkina Faso, Congolese Order of Merit, Urdd Abdulaziz al Saud, National Order of Merit, Gorchymyn Cenedlaethol Madagascar, Urdd Aviz, Urdd Seren Ghana, Order of the 7th November 1987, Urdd y Dannebrog, Urdd yr Haul, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Order of Pahlavi, Grand Cross, Special Class of the Order of the Sun of Peru, Grand Cross Special Class of the Order of the Aztec Eagle, Order of the Republic Edit this on Wikidata

Brenin Moroco yw Mohammed VI (Arabeg: محمد السادس‎) (ganed 21 Awst 1963, Rabat). Olynodd ei thad Hassan II i'r orsedd ar y 23ain o Orffennaf 1999.

Ar ôl cael addysg Coranaidd draddodiadol yn blentyn, aeth ymlaen i astudio am ei fagloriaeth ac enillodd radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Mohammed V, Rabat. Yn 1993, derbyniodd PhD gan Brifysgol Nice Sophia Antipolis yn Ffrainc am ei draethawd ar berthynas y Maghreb a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'n cael ei weld fel brenin blaengar gan y mwyafrif o sylwebyddion, yn enwedig mewn cymhariaeth â'i dad, Hassan II, a feirniadwyd am ei bolisïau ceidwadol a'i record ar hawliau dynol ym Moroco. Mae wedi gweithio i wella safle swyddogol a chyfreithiol merched yn y gymdeithas. Y peth cyntaf a wnaeth ar ôl esgyn i'r orsedd oedd darlledu neges ar y teledu yn addo gwella hawliau dynol ac ymestyn democratiaeth yn y wlad. Sefydlodd Gomisiwn i adrodd ar y sefyllfa hawliau dynol dan Hassan II ond cyfyngwyd ei waith i'r cyfnod cyn 1999 a gwaharddwyd sôn am Hassan II wrth ei enw: digiodd hynny nifer o ymgyrchwyr dros hawliau dynol y tu mewn a'r tu allan i'r wlad.

Er ei fod yn frenin mwy blaengar a chosmopolitaidd na'i dad, mae'n dal i fwynhau sefyllfa lled-awtocratig fel brenin Moroco. Mae wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i bolisïau'r Unol Daleithiau a'i cynghreiriad gorllewinol, yn gyffredinol, ac mae hynny wedi digio gwrthwynebwyr ceidwadol Islamig a phleidwyr system mwy democrataidd fel ei gilydd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Rhagflaenydd:
Hassan II
Brenin Moroco
23 Gorffennaf 1999
Olynydd:
delliad
Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato