Beni Mellal

Oddi ar Wicipedia
Beni Mellal
Mathurban commune of Morocco, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth192,676 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1668 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Béni-Mellal Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr620 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.3394°N 6.3608°W Edit this on Wikidata
Cod post23000 Edit this on Wikidata
Map

Dinas ym Moroco yw Beni Mellal (Arabeg: بني ملال‎), sy'n brifddinas rhanbarth Tadla-Azilal. Poblogaeth: 163,286 (cyfrifiad 2004). Fe'i lleolir yng nghanolbarth 620 metr i fyny wrth droed Jebel Tassemit (2247m), wrth ymyl gwastadedd Beni Amir.

Mae'r ddinas yn gorwedd cryn bellter o'r môr ac yn cael ei gysgodi o gyfeiriad y dwyrain gan fynyddoedd yr Atlas Canol; o ganlyniad mae ganddi hinsawdd cyfandirol gyda hafau poeth iawn a gaeafau eithaf oer.

Codwyd muriau'r ddinas gan y Swltan Moulay Ismail, yn 1688, ynghyd â'r Kasbah (caer) Bel-Kush, ond mae'r rhan fwyaf o'r ddinas yn gymharol fodern. Mae'n gwasanaethu fel prif ganolfan economaidd y rhanbarth: mae cynnyrch amaethyddol lleol fel orennau a ffigys yn cyrraedd y farchnad trwy Beni Mellal.

Mae gan y ddinas gysylltiadau cludiant da gyda dinas Casablanca ar yr arfordir i'r gorllewin ac mae'n gorwedd ar yr hen lwybr masnach - priffordd genedlaethol erbyn heddiw - rhwng Fez a Marrakech. Ar hyn o bryd mae'r gorfforaeth reilffordd genedlaethol, ONCF, yn adeiladau lein newydd o Casablanca i gyrraedd Beni Mellal.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato