Atlas Canol
![]() | |
Math |
cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Moroco ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
23,000 km² ![]() |
Uwch y môr |
3,356 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
33.5°N 4.5°W ![]() |
Hyd |
350 cilometr ![]() |
Cyfnod daearegol |
Triasig ![]() |
Cadwyn fynydd |
Mynyddoedd yr Atlas ![]() |
![]() | |
Cadwyn o fynyddoedd gyda hyd o tua 350 km sy'n ymestyn ar draws canolbarth Moroco o'r de-orllewin i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yw'r Atlas Canol (Arabeg, الأطلس المتوسط ; Ffrangeg, Moyen Atlas). Mae'n gorwedd rhwng bryniau'r Rif i'r gogledd a'r Atlas Uchel i'e de, gydag arwynebedd o tua 2.3 miliwn hectar, sef tua 18% o ucheldiroedd y wlad.
Dyma'r mwyaf gorllewinol o dair cadwyn Mynyddoedd yr Atlas ym Moroco sy'n diffinio basn uchel sy'n ymestyn i gyfeiriad y dwyrain i Algeria. I'r de o'r Atlas Canol ac yn wahanedig gan yr afonydd Moulouya ac Oum Er-Rbia, mae'r Atlas Uchel yn ymestyn am 700 km mewn cyfres o gopaon gyda deg ohonynt dros 4,000 medr. I'r gogledd o'r Atlas Canol gorwedd Afon Sebou a mynyddoedd y Rif, sy'n ymestyniad deheuol o'r Cordillera Baetig (sy'n cynnwys y Sierra Nevada) yn ne Sbaen.
Gorwedd yn bennaf yn nhaleithiau Khénifra, Ifrane, Boulmane, Sefrou ac El Hajeb, ynghyd â rhannau o daleithiau Taza a'r Beni Mellal (enwir yr olaf yn "Ddrws yr Atlas Canol"). Fel yn achos yr Atlas Uchel, mae'n gartref i'r Berberiaid ac yn un o gadarnleoedd yr iaith Ferbereg.