Rhanbarthau Moroco
Creuwyd rhanbarthau Moroco yn 1997 fel rhan o broses datganoli ym Moroco. Ceir 16 ohonynt ym Moroco ac yn y rhan o diriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara a hawlir gan y wlad. Dyma unedau gweinyddol uchaf Moroco, a rennir yn eu tro yn 61 uned weinyddol. Rheolir pob rhanbarth gan Wali, a enwebir gan frenin y wlad. Mae'r Wali yn llywodraethwr y dalaith neu préfecture lle mae'n byw hefyd.
Rhanbarthau gyda'u prifddinasoedd
[golygu | golygu cod]Rhoddir isod enw'r rhanbarth yn gyntaf, gyda rhif sy'n dynodi ei leoliad ar y map ar y dde, ac wedyn enw'r 'brifddinas', sef canolfan weinyddol y rhanbarth.
- 1 Chaouia-Ouardigha • Settat
- 2 Doukkala-Abda • Safi
- 3 Fès-Boulemane • Fès
- 4 Gharb-Chrarda-Béni Hssen • Kénitra
- 5 Grand Casablanca • Casablanca
- 6 Guelmim-Es Semara • Guelmim
- 7 Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra • Laâyoune
- 8 Marrakech-Tensift-El Haouz • Marrakech
- 9 Meknès-Tafilalet • Meknès
- 10 L'Oriental • Oujda
- 11 Oued Ed-Dahab-Lagouira • Dakhla
- 12 Rabat-Salé-Zemmour-Zaer • Rabat
- 13 Souss-Massa-Draâ • Agadir
- 14 Tadla-Azilal • Beni Mellal
- 15 Tanger-Tétouan • Tanger
- 16 Taza-Al Hoceima-Taounate • Al Hoceima
Tiriogaeth Gorllewin Sahara
[golygu | golygu cod]Mae tri rhanbarth - Guelmim-Es Semara (6), Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra (7), ac Oued Ed-Dahab-Lagouira (11) yn gorwedd yn nhiriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara ac yn cael ei hawlio gan y Polisario. Fe'i dynodir mewn italigs uchod.