Reginald William Phillips

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Reginald William Phillips
Ganwyd 1854, 15 Hydref 1854 Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth botanegydd Edit this on Wikidata

Gwyddonydd (naturiaethwr) oedd yr Athro Reginald William Phillips (18541926).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn Nhalgarth ym Mrycheiniog yn 1854. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Normal, Bangor. Ar ôl bod yn dysgu yn y Coleg am gyfnod symudodd i Gaergrawnt i astudio’r Gwyddorau Naturiol. Fe enillodd ysgoloriaeth a graddiodd yn y dosbarth cyntaf. Yn 1884 sefydlwyd Coleg y Gogledd ym Mangor ac mi gafodd swydd darlithydd bioleg yno. Penodwyd i gadair athro pedair blynedd yn ddiweddarach. Yn 1894 sefydlwyd cadair botaneg yn y coleg a Phillips oedd y cyntaf i’w dal.

Cafodd radd D.Sc Llundain am draethawd ar wymon.[1] Cafodd ei ethol yn Gymrawd o’r Gymdeithas Linneaidd.[2]

Bu farw yn 1926.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhai o Wyddonwyr Cymru gan O.E Roberts (cyhoeddwyd gan Cyhoeddiadau Modern Cymreig)
  2. Roberts, O.E. Rhai o Wyddonwyr Cymru. Cyhoeddiadau Modern Cymreig.