Raffaello Sanzio

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Raffael)
Raffaello Sanzio
GanwydRaffaello Sanzio Edit this on Wikidata
6 Ebrill 1483, 28 Mawrth 1483 Edit this on Wikidata
Urbino Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 1520 Edit this on Wikidata
o methiant y galon Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, pensaer, drafftsmon, drafftsmon, cynllunydd, fresco painter, arlunydd llys Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa fornarina, Ysgol Athen, Stanze di Raffaello, Resurrection of Christ, Y Forwyn a'r Plentyn, Priodas y Forwyn Fair, Madonna del Granduca, Madonna of the Goldfinch, Madonna del Prato, The Deposition, Madonna Sistina, Transfiguration, Portrait of Baldassare Castiglione Edit this on Wikidata
Arddullpeintio hanesyddol, portread (paentiad), portread, alegori, celfyddyd grefyddol, paentiad mytholegol Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Eidalaidd, yr Uchel Ddadeni Edit this on Wikidata
TadGiovanni Santi Edit this on Wikidata
PartnerMargarita Luti Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Sbardyn Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Arlunydd a phensaer Eidalaidd oedd Raffaello Sanzio, weithiau Raffaello Santi, a adwaenir fel rheol fel Raffael (28 Mawrth neu 6 Ebrill 14836 Ebrill, 1520). Ystyrir ef, gyda Michelangelo a Leonardo da Vinci, yn un o'r triawd o feistri o'r cyfnod yma yn yr Eidal. Er iddo farw yn gynharol ieuanc, yn 37 oed, roedd yn arlunydd cynhyrchiol iawn, ac mae llawer o'i waith wedi ei gadw, yn enwedig yn y Fatican.

Ganed ef yn Urbino yng nghanolbarth yr Eidal. Roedd ei dad, Giovanni Santi, yn arlunydd i Ddug Urbino. Bu farw ei fam, Màgia, yn 1491, a'i dad yn 1494. Rhwng 1504 a 1508 bu'n astudio a gweithio yn Fflorens, cyn treulio ei ddeuddeg mlynedd olaf yn Rhufain, lle bu'n gweithio i ddau Bab.