Baldassare Castiglione

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Baldassare Castiglione
Baldassare Castiglione, by Raffaello Sanzio, from C2RMF retouched.jpg
Portread o Baldassare Castiglione (1514/15) gan Raffael
Ganwyd 6 Rhagfyr 1478 Edit this on Wikidata
Marcaria Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Chwefror 1529 Edit this on Wikidata (50 oed)
Achos: y pla Edit this on Wikidata
Toledo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Duchy of Milan Edit this on Wikidata
Galwedigaeth diplomydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddull treatise, epistolary genre, elegy Edit this on Wikidata
Mudiad yr Uchel Ddadeni Edit this on Wikidata
Tad Cristoforo Castiglione Edit this on Wikidata
Mam Luigia Gonzaga Edit this on Wikidata
Priod Ippolita Torelli Edit this on Wikidata
Plant Camillo Castiglione Edit this on Wikidata
Llinach House of Castiglione Edit this on Wikidata

Diplomydd, gŵr llys, a llenor Eidalaidd yn ystod y Dadeni oedd Baldassare Castiglione (6 Rhagfyr 14782 Chwefror 1529) sy'n enwocaf am ei lyfr Il libro del cortegiano (1528).

Ganwyd yn Casatico yn ardal Mantova i deulu bonheddig. Cafodd ei addysg yn ysgol ddyneiddiol Giorgio Merula a Demetrius Chalcondyles, ac yn llys Ludovico Sforza ym Milan. Dychwelodd i Mantova ym 1499 i weithio i'r ardalydd Francesco Gonzaga, ac ym 1504 fe symudodd i weithio i Guidobaldo da Montefeltro, Dug Urbino. Cafodd ei ddanfon i Rufain ym 1513 fel llysgennad y dug newydd, Francesco Maria della Rovere, ac yn ddiweddarach fe weithiodd i'r pab. Aeth i Sbaen ym 1525 fel llysgennad y pab, ac yno y bu farw yn Toledo.

Ysgrifennodd Il libro del cortegiano yn y cyfnod 1513–18, a chyhoeddwyd y llyfr yn Fenis ym 1528. Ffurf ymgom sydd i'r gwaith, ac ymddangosa cyfeillion yr awdur, gan gynnwys Pietro Bembo, Ludovico da Canossa, Bernardo da Bibbiena, a Gasparo Pallavicino, yn trafod nodweddion y llyswr delfrydol: graslonrwydd, sprezzatura, hwyl, huodledd, ac anrhydedd.