Rafael Nadal
![]() | ||
Llysenw | Rafa, El toro (Y Tarw) | |
Gwlad | ![]() | |
Cartref | Manacor, Mallorca | |
Dyddiad Geni | 3 Mehefin 1986 | |
Lleoliad Geni | Manacor, Mallorca | |
Taldra | 1 m 85 | |
Pwysau | 85 cg | |
Aeth yn broffesiynol | 2001 | |
Ffurf chwarae | Chwith; Gwrthlaw ddeulaw | |
Arian Gwobr Gyrfa | UD$34,605,902 | |
Senglau | ||
Record Gyrfa: | 460 – 98 | |
Teitlau Gyrfa: | 42 | |
Safle uchaf: | 1 (18 Awst 2008) | |
Canlyniadau'r Gamp Lawn | ||
Agored Awstralia | cynderfynol (2009) | |
Agored Ffrainc | enillwr (2005, 2006, 2007, 2008, 2010) | |
Wimbledon | enillwr (2008, 2010) | |
Agored yr UD | enillwr (2010) | |
Parau | ||
Record Gyrfa: | 81 – 52 | |
Teitlau Gyrfa: | 6 | |
Safle uchaf: | 26 (8 Awst 2005) | |
Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 14 Medi 2010. |
Chwaraewr tenis Sbaenaidd sydd ar hyn o bryd yn dal safle Rhif 1 y Byd yw Rafael Nadal Parera (IPA: ynganiad: [[rafaˈel naˈðal]]) (ganwyd 3 Mehefin, 1986).
Mae Nadal wedi ennill pum teitl senglau y Gamp Lawn a medal aur yng Ngemau Olympaidd 2008. Enillodd Pencampwriaeth Agored Ffrainc pedwar gwaith yn olynol rhwng 2005 a 2008 a Phencampwriaeth Wimbledon yn 2008. Ef yw'r unig ddyn ar wahân i Björn Borg i ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc pedwar gwaith yn olynol, un o ddim ond tri dyn yn yr Oes Agored i ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc a Wimbledon yn yr un flwyddyn calendr, yr ail Sbaenwr i ennill Wimbledon, a'r unig ddyn i fynd i mewn i'r Gemau Olympaidd gyda safle yn y pump uchaf ac yna ennill medal aur yn y gystadleuaeth senglau.
Mae gan Nadal gystadleuaeth yrfa gyda Roger Federer. Nadal oedd Rhif 2 y Byd y tu ôl i Federer am record o 160 o wythnosau cyn iddo ennill y safle uchaf.[1] Enillodd Nadal 12 o'u 18 o ornestau senglau, yn cynnwys pedair o'u chwe gornest rownd derfynol mewn cystadleuaethau'r Gamp Lawn.[2]
Mae Nadal yn hynod o lwyddiannus ar gyrtiau clai: mae ganddo record 22–1 mewn rowndiau terfynol twrnameintiau ar gyrtiau clai.[3] Ym mhob un o'r bedair mlynedd ddiwethaf, mae wedi ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc a dau dwrnamaint cwrt clai Cyfres y Meistri. Nadal sy'n dal y record am ennill y mwyaf o ornestau olynol ar yr un arwyneb yn yr Oes Agored, gan iddo chwarae 81 o ornestau ar glai yn olynol o Ebrill 2005 i Mai 2007 heb gael ei drechu.[4] O ganlyniad, ystyrid gan rai sylwebyddion a phrif chwaraewyr tenis fel y chwaraewr cyrtiau clai gorau erioed.[5][6][7]
Yn 2008, derbyniodd Gwobr Tywysog Asturias am chwaraeon.[8]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) It's official: Nadal will pass Federer for No. 1. NBC (1 Awst, 2008). Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Roger, Rafa to Meet in Record Sixth Grand Slam Final (4 Gorffennaf, 2008).
- ↑ (Saesneg) Nadal's Numbers: 10 amazing clay stats. TENNIS.com. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Garber, Greg (20 Mai, 2007). Federer ends Nadal's win streak. ESPN. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Harwitt, Sandra (8 Mehefin, 2008). Is Rafael Nadal the best clay-court player ever?. ESPN. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Perrotta, Tom (28 Ebrill, 2008). Nadal Appearing Unbeatable on Clay. The New York Sun. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Bondo, Peter. Endgame on Clay. TENNIS.com. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Rafael Nadal (enillwr Gwobr Chwaraeon 2008). Fundación Príncipe de Asturias. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Rafael Nadal
- (Saesneg) Proffil ATP Tour ar gyfer Rafael Nadal
Safleoedd chwaraeon | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Roger Federer |
Rhif 1 y Byd 18 Awst 2008 – 6 Gorffennaf 2009 |
Olynydd: Roger Federer |
Rhagflaenydd: Roger Federer |
Rhif 1 y Byd 7 Mehefin 2010 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Gwobrau | ||
Rhagflaenydd: Nicolás Massú |
Pencampwr Olympaidd 2008 |
Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: Paul-Henri Mathieu |
Gwobr ATP am y Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn 2003 |
Olynydd: Florian Mayer |
Rhagflaenydd: Joachim Johansson |
Gwobr ATP am y Chwaraewr sydd wedi Gwella Mwyaf 2005 |
Olynydd: Novak Djokovic |
Rhagflaenydd: Liu Xiang |
Gwobr Laureus am Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn 2006 |
Olynydd: Amélie Mauresmo |