Rùm
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 22 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cyngor yr Ucheldir |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 104 km² |
| Gerllaw | Sea of the Hebrides |
| Cyfesurynnau | 57°N 6.35°W |
![]() | |
Un o'r Ynysoedd Bach yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Rùm (Saesneg: Rum, gynt Rhum). Yn weinyddol mae'n rhan o ardal Lochaber o Gyngor yr Ucheldiroedd.
Rùm yw'r fwyaf o'r Ynysoedd Bach, gydag arwynebedd o 10,463 hectar, a saif yn bymthefged ymhlith ynysoedd yr Alban o ran maint, ond dim ond tua 30 o bobl sy'n byw arni. Yn 1826 roedd y boblogaeth yn 450, ond fel rhan o broses Clirio'r Ucheldiroedd, gorfodwyd pawb i ymadael i droi'r ynys yn fferm ddefaid enfawr. Mae'r boblogaeth bresennol i gyd yn byw ym mhentref Kinloch ar yr arfordir dwyreiniol. Prynwyd yr ynys gan y Cyngor Gwarchod Natur yn 1957, ac fe'i rheolir yn awr gan NatureScot (Scottish Natural Heritage gynt). Ceir amrywiaeth o fywyd gwyllt yma, megis y Carw Coch, ac mae Eryr môr a 70,000 pâr o Aderyn drycin Manaw yn nythu.
Mae fferi yn cysylltu'r ynys a Mallaig ar y tir mawr.

