Clirio'r Ucheldiroedd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweddillion tyddynnod ar ynys Fuaigh Mòr yn Loch Roag. Cliriwyd yr ynys yn 1841 i'w defnyddio ar gyfer defaid

Clirio'r Ucheldiroedd (Gaeleg: Fudach nan Gàidheal, Saesneg: Highland Clearances) yw'r term a ddefnyddir am y broses o orfodi cyfran helaeth o drigolion Ucheldiroedd yr Alban i adael eu catrefi a'u tyddynnod yn y 18g a'r 19g. Symudodd llawer ohonynt i Iseldiroedd yr Alban, a llawer i wledydd tramor megis Canada a'r Unol Daleithiau

Dan hen system y clan, roedd gan y pennaeth ddyletswyddau tuag at aelodau eraill y clan, a chanddynt hwythau ddyletswydd i ymladd drosto ef pan oedd gofyn. Po fwyaf o ddilynwyr oedd gan bennaeth y clan, mwyaf oedd ei rym. Dechreuodd hyn newid yn dilyn Brwydr Culloden a'r ddeddf a basiwyd yn 1746 yn diarfogi trigolion yr Ucheldiroedd, yn ogystal a gwahardd eu gwisg draddodiadol. Daeth y penaethiaid yn dirfeddianwyr, gyda pherthynas wahanol a'r bobl oedd yn dal tiroedd ar eu hystadau. Erbyn ail hanner y 18g, roedd cadw gwartheg, ac yn arbennig defaid, yn talu'n well na chadw'r tenantiaid bychain.

O ganlyniad, dechreuodd y tirfeddianwyr ar y broses i orfodi'r tenantiaid i adael. Un flwyddyn pa fu llawer o fudo oedd 1792, a ddaeth i'w galw yn "Flwyddyn y Defaid" gan drigolion yr Ucheldiroedd. Cynyddodd y clirio ym mlynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Bu newyn yn yr Ucheldiroedd rhwng 1846 a 1857 pan fethodd y cnwd tatws, cyffelyb i Newyn Mawr Iwerddon ar raddfa lai. Manteisiodd y tirfeddianwyr ar hyn i yrru mwy o'r tenantiaid o'u tyddynod.

Lleihaodd y broses yma boblogaeth yr Ucheldiroedd yn fawr, ac mewn llawer ardal erys y boblogaeth yn llawer llai nag oedd yn y 18g. Cafodd effaith ieithyddol hefyd, gan mai siaradwyr Gaeleg oedd mwyafrif mawr y rhai a yrrwyd o'r wlad. Bu'n elfen bwysig yn nirywiad sefyllfa'r iaith. Amcangyfrifir i 25,000 o siaradwyr Gaeleg gyrraedd Ynys Cape Breton, Nova Scotia rhwng 1775 a 1850. Ar ddechrau'r 20g, roedd tua 100,000 o siaradwyr Gaeleg yno, ond erbyn dechrau'r 21ain ganrif roedd y nifer o dan fil.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • An overview of the Clearances, Alexander McKenzie, 1881.
  • Gloomy Memories, Donald Macleod, 1857
  • The Highland Clearances, John Prebble, Secker & Warburg, 1963
  • The Highland Clearances, Eric Richards, Birlinn Books, 2000.
  • A history of the Highland clearances. Vol.1, Agrarian transformation and the evictions 1746-1886", Eric Richards, Croom Helm, c1982, 085664496X
  • The Strathnaver Trilogy, Ian Grimble. 3 cyfrol: Chief of MacKay, The Trial of Patrick Sellar, and The World of Rob Donn.
  • The People of Glengarry. Highlanders in Transition, 1745-1820, Marianne McLean, McGill-Queen's University Press; 1993.
  • Die Schottischen Clans im 18. Jahrhundert, Vom Wandel und Ende einer Hochlandgesellschaft am Rande Europas, A Personal Passion Play in Scottish History and Bibliography, Hubert Gebele, Regensburg 2003.