Ptolemi XII Auletes
Ptolemi XII Auletes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
117 CC ![]() |
Bu farw |
51 CC ![]() Alexandria ![]() |
Galwedigaeth |
brenin neu frenhines ![]() |
Swydd |
Pharo ![]() |
Tad |
Ptolemy IX Lathyros ![]() |
Mam |
Cleopatra IV of Egypt ![]() |
Priod |
Cleopatra V or VI of Egypt, Cleopatra VI of Egypt ![]() |
Plant |
Cleopatra, Berenice IV of Egypt, Arsinoe IV of Egypt, Ptolemi XIII Theos Philopator, Ptolemy XIV of Egypt, Cleopatra VI of Egypt ![]() |
Llinach |
Brenhinllin y Ptolemïaid ![]() |

Brenin yr Aifft o 80 CC hyd 58 CC ac eto o 55 CC hyd ei farwolaeth yn 51 CC oedd Ptolemi XII Auletes neu Ptolemi Neos Dionysos Theos Philopator Theos Philadelphos (Groeg: Πτολεμαῖος Νέος Διόνυσος Θεός Φιλοπάτωρ Θεός Φιλάδελφος (117 CC - 51 CC). Roedd yn aelod o frenhinllin y Ptolemïaid ac yn fab i Ptolemy IX Soter. Mae'r llysenw "Auletes" yn golygu "y ffliwtydd".
Daeth Ptolemi XII i'r orsedd yn 80 CC wedi i Ptolemy XI gael ei ladd gan dyrfa oherwydd iddo lofruddio ei gyd-deyrn Berenice III. Dilynodd bolisi o gyfeillgarwch a Gweriniaeth Rhufain. Yn 58 CC. fei' gorfodwyd i ffoi i Rufain, ac olynwyd ef gan ei ferch Berenice IV. Llwyddodd i adennill ei orsedd trwy dalu 10,000 talent i Aulus Gabinius i ymosod ar yr Aifft, a diorseddu a dienyddio Berenice.
Ychydig cyn ei farwolaeth, gwnaeth ei ferch, Cleopatra VII yn gyd-deyrn.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Strabo 12.3.34 and 17.1.11
- Dio Cassius 39.12 - 39.14, 39.55 - 39.58