Ptolemi XIII Theos Philopator

Oddi ar Wicipedia
Ptolemi XIII Theos Philopator
Ganwyd62 CC Edit this on Wikidata
Yr Aifft Edit this on Wikidata
Bu farw47 CC Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Afon Nîl Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddPharo Edit this on Wikidata
TadPtolemi XII Auletes Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata
PriodCleopatra Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllin y Ptolemïaid Edit this on Wikidata

Un o dŷ brenhinol y Ptolemiaid a brenin yr Aifft o 51 CC hyd ei farwolaeth oedd Ptolemi XIII Theos Philopator (Groeg: Πτολεμαίος Θεός Φιλοπάτωρ (62 CC/61 CC - 13 Ionawr, 47 CC?).

Roedd yn fab i Ptolemi XII Auletes, ac ar farwolaeth ei dad daeth yn frenin yn 51 CC, yn 12 oed, ar y cyd a'i chwaer hŷn Cleopatra VII, a ddaeth yn wraig iddo.

Wedi teyrnasu am dair blynedd, gyrrodd Ptolemi ei chwaer o'r orsedd ar gyngor Pothinus ac Achillas, ac alltudiwyd hi i Syria. Ceisiodd Cleopatra adennill yr orsedd, ond ni lwyddodd ar y cychwyn. Yn 48 CC, ffôdd y cadfridog Rhufeinig Gnaeus Pompeius Magnus i'r Aifft wedi iddo gael ei orchfygu gan Iŵl Cesar ym Mrwydr Pharsalus. Ar gyngor Pothinus, gorchymynodd Ptolemi ei lofruddio wrth iddo lanio.

Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd Iŵl Cesar a'i fyddin ddinas Alexandria. Cymerodd Cesar ochr Cleopatra, a ddaeth yn gariad iddo, yn erbyn Ptolemi. Flwyddyn yn ddiweddarach boddwyd Ptolemi yn Afon Nîl wrth ymladd yn erbyn milwyr Cesar.

Rhagflaenydd:
Ptolemi XII
a Cleopatra
Brenin yr Aifft
51 CC – tua 47 CC
gyda Cleopatra
Olynydd:
Ptolemi XIV
a Cleopatra