Ptolemi I Soter

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ptolemi I Soter
Ptolemy I Soter Louvre Ma849.jpg
Ganwyd 360s CC Edit this on Wikidata
Macedon Edit this on Wikidata
Bu farw 280s CC, c. 0283 CC, 283 CC, 282 CC Edit this on Wikidata (Gweithredydd < annisgwyl oed)
Alexandria Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Macedon, Ptolemaic Kingdom Edit this on Wikidata
Galwedigaeth brenin neu frenhines, hanesydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swydd Somatophylakes, Pharo, strategos Edit this on Wikidata
Tad Lagus Edit this on Wikidata
Mam Arsinoe of Macedon Edit this on Wikidata
Priod Artakama, Thaïs, Eurydice of Egypt, Berenice I of Egypt Edit this on Wikidata
Plant Ptolemy II Philadelphus, Arsinoe II, Ptolemy Keraunos, Meleager, Lysandra, Ptolémaïs, Philotera, Argyios of Egypt, Irene Edit this on Wikidata
Llinach Brenhinllin y Ptolemïaid Edit this on Wikidata

Cadfridog Macedonaidd dan Alecsander Fawr a sylfaenydd brenhinllin y Ptolemiaid yn yr Hen Aifft oedd Ptolemi I Soter (Groeg: Πτολεμαῖος Σωτήρ, Ptolemaios Soter, "Ptolemi y Gwaredwr", 367 CC283 CC).

Roedd Ptolemi yn un o gadfridogion mwyaf blaenllaw Alecsander, ac yn gyfaill iddo o'u bachgendod. Bu ganddo ran amlwg yn ymgyrchoedd Alecsander yn Affganistan ac India, a chofnodir iddo briodi tywysogers Bersaidd, Artakama, yn Susa.

Wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, daeth Ptolemi yn satrap yr Aifft. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn un arall o gadfrodogion Alecsander, Perdiccas, pan ymosododd ef ar yr Aifft, ac yn 305/4 CC cyhoeddodd ei hun yn frenin. Yn 285 CC, gwnaeth ei fab, Ptolemi II Philadelphus, yn gyd-frenin.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Walter M. Ellis, Ptolemy of Egypt (Routledge, 1993)