Prifddinas Cymru
Gwedd
- Gweler hefyd: Dinasoedd Cymru
Ers 1955 Caerdydd yw prifddinas Cymru yn swyddogol.
Prifddinasoedd hanesyddol
[golygu | golygu cod]Yn hanesyddol cysylltir mannau eraill â statws prifddinas Cymru:
- Tyddewi: prifddinas eglwysig de facto Cymru a man geni Dewi Sant, nawddsant Cymru.
- Ystrad Fflur: cynhalodd Llywelyn Fawr cyngor ym 1238.
- Machynlleth: cynhalodd Owain Glyndŵr senedd ym 1404.
Dan reolaeth Seisnig
[golygu | golygu cod]Llwydlo, Lloegr, oedd sedd Dominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers o 1473 hyd 1689.
Awgrymmiadau
[golygu | golygu cod]Yn 1895 awgrymodd Emrys ap Iwan mai rhywle yn y Canolbarth y dylai'r brifddinas fod.[1] Dywedodd:
- Ym mleynaf, fe ddyle’r brif ddinas fod yn agos i gyffinia De a Gogledd, sef o fewn y dalayth a elwid gynt yn Bowys,- dyweder, y wlad rhwng yr afon Mawddach a’r afon Ystwyth, ac oddi rhyngddyn hwy tua’r dwyrain, gan gynnwys Croysoswallt, Pengwern (Shrewsbury), a Llwydlo (Ludlow), trefi oydd yn perthyn unwaith i dalayth Powys, ac a ddylen fod yn perthyn iddi etto.
- Yn ail, fe ddyle’r brif ddinas fod nid yn unig ynghanolbarth Cymru, ond ond hefyd mewn ardal Gymreigaidd ei hiaith a’i defoda, ac heb fod yn neppell o’r mann lle y may pedair tafodiaith Cymru, sef tafodiaith Gwynedd, tafodiaith Powys, tafodiaith Gwent, a thafodiaith Dyfed, yn ymgyfarfod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cymru Catalonia; PRIF DDINAS I GYMRU. (Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Penbedw) Y Geninen. Rhif 2, Cyfrol XIII. Ebrill 1895. Tudalennau 81-85