Pren mesur

Oddi ar Wicipedia
Pren mesur
Enghraifft o'r canlynolcategori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathmetrological mechanism, stationery, offeryn mesur, straightedge, measuring tools & sensor Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Teclyn a ddefnyddir i dynnu llinell syth ac i fesur y llinell honno yw'r ffon fesur, y pren mesur, tâp mesur, riwler neu'r mesurydd. Fe'i defnyddir yn aml o fewn geometreg, lluniadu technegol, peirianneg ac adeiladu. Fel arfer mae gan y ffon fesur farciau ar ei hymyl a elwir weithiau'n "raddfa" er mwyn mesur hyd llinell neu ddau bwynt sydd ar wahân.

Hyd at y 1980au fe'i gwnaed o bren neu fetel, a gelwid y teclyn yn 'bren mesur'; yna daeth y teclyn plactig i'r farchnad, ond hyd yn oed yn 2018 mewn nifer o ysgolion, daliwyd i'w galw'n "bren mesur" neu weithiau'n "bren mesur plastig".

Mae hyd o 12 modfedd (30 cm) yn boblogaidd, hyd yn oed heddiw (2018), oherwydd fod ei faint yn hylaw, yn hawdd i'w gludo. Mewn ystafelloedd fel labordy, neu ddosbarth mathemateg, cedwid hefyd ffon fetr i fesur gwrthrychau mwy. Ceir ffyn 6 modfedd (15 cm) hefyd, gan y gellid eu cadw'n hwylus mewn poced neu gas pensiliau. Ar ddechrau'r 21g daeth mesuryddion laser i'r farchnad, i fesur pellter o wal i wal neu i darged milwrol ayb.[1]

Ceir disgrifiadau o ffyn mesur yn llenyddiaeth yr henfyd, gan gynnwys y Beibl, law yn llaw, yn aml, gyda rhaff i fesur hyd hirach e.e. gan y pensaer.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Cherry, Dan. "Collector's guide to rules", Furniture & Cabinetmaking, no. 259, Gorff 2017, ISSN 1365-4292, pp. 52–6
  • Rees, Jane a Mark (2010). The Rule Book: Measuring for the Trades. Lakeville, MN: Astragal Press ISBN 978-1-931626-26-2 OCLC 907853704
  • Russell, David R., James Austin a David Armstrong-Jones, (2010). Antique Woodworking Tools: Their Craftsmanship from the Earliest Times to the Twentieth Century]], Caergrawnt: John Adamson ISBN 978-1-898565-05-5 OCLC 727125586, tt. 64–74
  • Whitelaw, Ian (2007). A Measure of All Things: The Story of Man and Measurement. Macmillan ISBN 0-312-37026-1 OCLC 938084552

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Lidar - Light Detection And Ranging,[1] (neu Light Imaging, Detection, And Ranging). Dull o fesur pellter gwrthrychau oddi wrth ei gilydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Steel Rule Has Pocket Clip For Use As A Depth Gauge", Popular Science, December 1935, t. 887 bottom right.