Laser

Oddi ar Wicipedia
Laser
Mathffynhonnell golau, cydran optegol Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod16 Mai 1960 Edit this on Wikidata
Cynnyrchlaser beam Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyfais sy'n allyrru golau (ymbelydredd electromagnetig) yw laser trwy broses o’r enw allyriant ysgogol. Mae'r gair laser yn sefyll am light amplification by stimulated emission of radiation. Crëwyd y laser gyntaf gan ffisegwyr Charles Townes ac Arthur Schawlow yn labordai Bell. Mae un o safleoedd ymchwil gwyddonol gorau Ewrop yn y maes hwn yn Llanelwy, sef Technium OpTIC.[1]

Laser

Prosesau o fewn laserau[golygu | golygu cod]

Arbrofion laserau Awyrlu yr Unol Daleithiau

Amsugniad Golau[golygu | golygu cod]

Mae ffoton gyda'r egni digonol yn cael ei amsugno gan atom ac mae electron yr atom yn symud o'r cyflwr isaf i'r cyflwr cynhyrfol.

Amsugniad Golau Ffoton gan Electron

Allyriant Digymell[golygu | golygu cod]

Mae'r broses yma yn digwydd i'r gwrthdro i'r amsugniad. Mae'r electron yn disgyn ar hap o'r cyflwr uchaf cynhyrfol i'r cyflwr isaf ac mae'r cwymp yma yn creu allyriad ffoton o'r un egni. Mae cydweddau a chyfeiriadau'r allyriadau yma ar hap.

Allyriant Digymell

Allyriad ysgogol[golygu | golygu cod]

prif erthygl:allyriant ysgogol
Awgrymwyd y broses yma gan Albert Einstein yn 1917. Caiff yr electron sydd yn y cyflwr cynhyrfol uwch ei ysgogi i ddisgyn gan y ffoton sy'n dod mewn i'r atom. Maes electromagnetig sydd gan y ffoton sy'n achosi i'r ffoton syrthio. Bydd y ffoton newydd a ysgogir gan y ffoton gwreiddiol yn gadael yr atom yn gydwedd ac i'r un cyfeiriad a'r ffoton gwreiddiol.

Allyriant Ysgogol- Un Ffoton mewn - dau ffoton allan, dyma sy'n creu golau cryf laser

Gwrthdroad Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Er mwyn cael y fwyaf o olau allan o'r ddyfais, rhaid cael y rhan fwyaf o'r electronau ar y lefel uwch cynhyrfol. Bydd hyn yn galluogi fwy ohonynt ddisgyn ac allyrru ffotonau. Mae yna broblem, mae'r ffotonau a gynhyrchir yn addas i'r electronau amsugno. Mae angen cael sefyllfa lle mae'r gyfradd allyriant ysgogol yn fwy na'r gyfradd amsugno gan yr electron- yna cynyddir arddwysedd y paladr laser. Wrth pwmpio electronau mae'r nifer o electronau cynhyrfol yn cynyddu a dyna yw gwrthdrawiad poblogaeth.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Externí odkazy[golygu | golygu cod]