Neidio i'r cynnwys

Porth Ysgaden

Oddi ar Wicipedia
Porth Cychod o gyfeiriad Cwt Griffith Griffiths.
Porth Ysgaden, Gwynedd, Cymru.

Porthladd bychain ar arfordir ogleddol Llŷn yng Ngwynedd, Cymru yw Porth Ysgaden, fe'i adnabyddid hefyd ers talwm fel 'Porth y Penwaig' [1]. Cyfeirnodau ar gyfer Porth Ysgaden yw fel y dengys: 52.9047°G, 4.6491°Gn. Y pentref agosaf i Borth Ysgaden yw Tudweiliog, sydd yn tua 30 munud o waith cerdded i ffwrdd os cymeryd y ffordd B4417 allan o'r pentref i gyfeiriad Llangwnnadl a throi i'r dde ar gyffordd Lôn Pencaenewydd i Benllech. Mae'n bosib hefyd cyrraedd Porth Ysgaden o'r cyfeiriad groes, sef cymeryd y B4417 tuag at Edern a throi i'r chwith allan o Dudweiliog am Rhos-y-llan a cherdded yr 'Horn' fel y gelwir y ffordd yma'n lleol. Mae'r rhan olaf o'r daith gerdded yma'n golygu teithio ar lôn breifat yng ngofalaeth Plas Cefnamwlch, mae hon yn lôn sydd heb ei thrin ac yn aml yn dyllog, ac mae angen gofal os yn gyrru ar ei hyd. Wrth gwrs mae posib ei chyrraedd wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru o naill gyfeiriad.

Ar gyrraedd Porth Ysgaden ar ddiwedd y ffordd breifat fe ddewch ar draws Lwybr Arfordir Cymru. I'r chwith fe ddewch at Borth Gwylan ac ymlaen ar hyd arfordir Penllech a Llangwnnadl tuag at Aberdaron. I'r dde wedyn mae Porth Ysgaden, Porth Cychod a thuag at Porth Ysglaig a thraeth tywodlyd Towyn. Yn union yn eich blaen cyn troi i'r dde i lawr i'r traeth fe welwch iard gychod a oedd hyd yn ddiweddar iawn yn cael ei defnyddio gan bysgotwyr lleol. Fe welwch lwybr trol yn dilyn i lawr i draeth graeanus - hwn yw Porth Ysgaden. I'r dde ar eich ffordd i lawr i'r traeth mae adeilad yr odyn galch a arferai gael ei ddefnyddio i losgi'r calch a fewnforwyd yma. Mae'r odyn wedi ei adnewyddu a'i warchod erbyn hyn.

Mae hanes diddorol i'r porthladd bach hwn a fu'n fwrlwm o bysgotwyr a phobl yn llwytho a dad-lwytho llongau bychain a arferid weithio ar hyd glannau Llŷn, yn arbennig yn ystod y 19G a 20G. Byddai'r llongau hyn yn mewnforio nwyddau megis glo a chalch ac yn allforio nwyddau fel caws a menyn o ffermydd Llŷn. Ar un adeg byddai'r llongau hyn yn mewnforio 'sôp wâst', a arferai gael ei ddefnyddio fel balast o ffatrïoedd sebon yn Iwerddon ac ar gyrraedd Llŷn caiff ei ddefnyddio fel gwrtaith ar y caeau [2]

Teulu Penralld, Porth Ysgaden, yn ôl Cyfrifiad 1891. (Ancestry.co.uk)

Ar ben galld y môr uwchben Porth Ysgaden mae murddyn. Hwn yw'r unig dystiolaeth ar ôl o'r hen adeilad a arferai fod yn gartref o'r enw Penralld (Porth Ysgaden). Yn fwy diweddar bu tad Griffith Griffiths, Tudweiliog yn byw yno. Gweithiai fel saer cychod ac adeiladodd y cychod hyn ar draeth Porth Ysgaden [3]

Mae hanes hŷn o Benralld hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd yr adeilad yn yr oes a fu;

"...Ar un adeg bu'r tŷ yn gartref i Morgan Hughes, swyddog y tollau. Bu ef yn y swydd o 1735 hyd at ei farwolaeth yn 1760, am gyflog o bum punt ar hugain y flwyddyn....

Gan fod treth yn daladwy ar amryw o'r nwyddau a fewnforid, pethau megis canhwyllau, sebon, halen a llawer peth arall, byddai'n angenrheidiol cael swyddog y tollau, neu'r 'ecseismon' fel y'i gelwid, yn bresennol pan fyddai'r llongau'n cael eu dadlwytho.

....Byddai'n ofynnol i Morgan Hughes, yn rhinwedd ei swydd, fod ym Mhorthcolmon, Porthferin, Porthor, Porth Meudwy ac Aberdaron yn ogystal â Porthysgaden pan fyddai'r llongau'n glanio; gorchwyl amhosibl i'w chyflawni yn aml gan mai cerdded ar hyd y glannau y byddai ac ni fedrai yntau, may nag un dyn arall, fod mewn dau le ar yr un pryd! Cymerid mantais o hyn yn aml gan smyglwyr." [4]

Cwt Griffith Griffiths, Porth Cychod.

Nid ymhell o adfeilion Penralld mae cwt bach a adeiladwyd yn wreiddiol fel cysgod teir-wal i drigolion Cefnamwlch ei ddefnyddio pan ddaeant yno. Eto, yma daw hanes yr un Mr. Griffith Griffiths Penralld (uchod) i'r amlwg pan gafodd ganiatad i adeiladu to ar y cysgod yma a'i droi'n gwt. [5] Mae'r cwt bach yma'n dal i sefyll er gwaethaf grym y gwyntoedd a'r stormydd a ddaw o gyfeiriad y môr. Islaw iddo mae porthladd bach arall o'r enw Porth Cychod. Yma mae olion cytiau pysgota a chyfarpar pysgota eraill sydd a'u hanes a'u cyfrinachau eu hunain yn araf rydu a dadfeilio'n eu segurdod.

Gweler hefyd o ran diddordeb lleol;

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Pennant, Thomas. Teithiau yng Nghymru. t. 364.
  2. Eames, Aled. Gwraig y Capten. Gwasanaeth Archifau Gwynedd. t. 67.
  3. Gruffydd, Elfed (1991). Ar Hyd Ben 'Ralld. Pwllheli: Clwb y Bont, Pwllheli. t. 27.
  4. Eames, Aled. Gwraig y Capten. Gwasanaeth Archifau Gwynedd. tt. 66, 67.
  5. Gruffydd, Elfed (1991). Ar Hyd Ben 'Ralld. Pwllheli: Clwb y Bont. t. 27.